Skip to content ↓

 

"Mae’r ddarpariaeth ar gyfer datblygu Cymreictod yn greiddiol i holl waith yr ysgol.  O ganlyniad, mae’r disgyblion yn ymfalchïo yn eu Cymreictod.  Ceir amrywiaeth o weithgareddau sy’n datblygu ymwybyddiaeth gadarn o ddiwylliant a hanes Cymru, gan gynnwys astudio chwedlau a thaith flynyddol i ymweld â lleoedd pwysig yn hanes Cymru." ESTYN 2019

Gofynnwn i rieni gefnogi’r Gymraeg.  Gan gofio mai dyma un o hanfodion yr ysgol, dylai plant wylio rhaglenni teledu Cymraeg, darllen llyfrau Cymraeg, ac yn bennaf, siarad yr iaith ar bob achlysur posib.  Mae anogaeth a chydweithrediad rhieni yn hyn yn gwneud gwahaniaeth positif i agwedd plant.