Skip to content ↓
Cinio Ysgol

Mae’r cinio ysgol a ddarperir yn ceisio sicrhau diet cytbwys sydd yn addas i blant ifanc. Ceir bwydlenni o swyddfa’r ysgol. Y gost yw £2.30. Gellir talu arlein drwy wefan ParentPay neu mewn siop Paypoint (fydd yr ysgol yn rhoi cod-bar i chi i dalu fel hyn). 

 

 

Pecyn Bwyd

Os dymunwch i’ch plentyn ddod â phecyn bwyd i’r ysgol, gofynnwn yn garedig i chi sicrhau pryd cytbwys a iachus o fwyd.

 

Prydau Ysgol am Ddim

Os ydych yn gymwys am ginio rhad, llenwch ffurflen ar wefan y Fro.

 

 

Am fwy o wybodaeth gweler y dudalen 'Prydau Ysgol' o dan y penawd 'Ein Hysgol'