canlyniadau TGAU
Canlyniadau TGAU 2020
Yn sgil digwyddiadau diweddar rydym yn hynod o falch o'n disgyblion CA4 a'u canlyniadau yr haf yma.
Mae'r canlyniadau fymryn yn uwch na'r targed a osodwyd dros blwyddyn yn ôl ac yn adlewyrchu cyrhaeddiad disgwyliedig ein disgyblion. Mae'r athrawon wedi bod yn hynod o onest gyda'u dosraniad o raddau a chafodd rhain eu herio gan aelodau o'r Uwch Dîm er mwyn sicrhau cysondeb.
5 TGAU neu fwy | Canran Disgyblion |
---|---|
5 TGAU neu fwy A*/A | 40% |
5 TGAU neu fwy A*-C (gan gynnwys Cymraeg/Saesneg a Mathemateg) |
81.58% |
5 TGAU neu fwy A*-C | 92.11% |
5 TGAU neu fwy A*-G | 100% |
Canyliadau TGAU 2019
Hoffwn longyfarch holl ddisgyblion a staff Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ar ganlyniadau TGAU rhagorol eleni – dyma ganlyniadau gorau’r ysgol ers sawl blwyddyn. Yn dilyn canlyniadau Safon Uwch gwych yr wythnos ddiwethaf braf yw nodi bod 80% o ddisgyblion yr ysgol wedi llwyddo i sicrhau’r Trothwy Lefel 2+ (5 TGAU gan gynnwys Cymraeg neu Saesneg, Mathemateg a’r Fagloriaeth Gymraeg) sef cynnydd o 12.6% pwynt canran ers 2018. Braf hefyd yw nodi bod 31.6% o’r garfan (cynnydd o 1.2 pwynt canran) wedi llwyddo i ennill pump neu fwy o raddau A*/A gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg, a bod 87.1% o ddisgyblion (cynnydd o 2.1 pwynt canran) wedi ennill 5 neu fwy o gymwysterau Lefel 2 sy’n dyst i holl ymdrechion yr adrannau a’r disgyblion. Testun balchder i ni fel ysgol yw bod pob un disgybl yn gadael â chymhwyster. Mae disgyblion o bob gallu wedi llwyddo ac maent yn haeddu dathlu eu cyflawniad.
Ymhlith y nifer sylweddol o ddisgyblion a serennodd oedd y canlynol:
Enw |
Graddau |
Cadi Haf Rhys-Binney |
13 A* a Mathemateg Ychwanegol (Clod) |
Heath Webb |
13 A* a Mathemateg Ychwanegol (Clod) |
Glesni Sion |
12 A*, 1A a Mathemateg Ychwanegol (Clod) |
Alys Evans |
12 A*, 1A a Mathemateg Ychwanegol (Clod) |
Morgan Bailey |
11 A*, 2A a Mathemateg Ychwanegol (Clod) |
Idris Merry |
11 A*, 2A a Mathemateg Ychwanegol |
Jessica Roberts |
10 A*, 3A a Mathemateg Ychwanegol |
Thomas Pugh |
9A*, 4A a Mathemateg Ychwanegol (Clod) |
Rhodri Lawton |
8A*, 5A a Mathemateg Ychwanegol (Clod) |
Bethan Lee |
8A*, 5A a Mathemateg Ychwanegol (Clod) |
Rhys Griffiths |
8A*, 5A a Mathemateg Ychwanegol (Clod) |
Beca Evans |
8A*, 5A a Mathemateg Ychwanegol (Clod) |
Carwyn Hastings |
7A*, 6A a Mathemateg Ychwanegol (Clod) |
Erin Anstey |
7A*, 5A, 1B a Mathemateg Ychwanegol |
Ioan Davies |
6A*, 6A,1B a Mathemateg Ychwanegol |
Lowri McIntyre |
6A*, 7A a Mathemateg Ychwanegol |
Edrychwn ymlaen at eu croesawu yn ôl i’r chweched dosbarth er mwyn cychwyn ar eu hastudiaethau Safon Uwch. Llongyfarchiadau gwresog i chi gyd!