Skip to content ↓

“DYRO DY LAW I MI AC FE AWN I BEN Y MYNYDD”

Drwy gydweithio ac ymddiried yn ein gilydd rydym am sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd i ben mynydd ei allu a’i dalentau. Gwnawn hynny drwy gynnig cyfle, cynhaliaeth ac arweiniad o fewn cymdeithas bositif, eangfrydig, diogel a gwâr.

Credwn mai drwy ddarparu’r canlynol y bydd ein disgyblion yn gwireddu ein cenhadaeth ar eu cyfer:

• Cwricwlwm eang a heriol

• Rhaglen gyfoethog o weithgareddau ac ymweliadau allgyrsiol

• Amgylchedd addysgu ysgogol

• Adnoddau dysgu cyfoethog ac amrywiol

• Addysgu safonol a dyfeisgar

• Agwedd ymchwiliol i ddysgu ac addysgu

• Ethos o gynhaliaeth, herio cyflawniad ac anogaeth

• Partneriaeth iach rhwng yr ysgol, y cartref a’r gymuned

Yn ogystal fe amlygwn ein hymrwymiad i weithio fel cymuned ddysg drwy:

• Ymlafnio ar gyfer gwelliant parhaus ymhopeth a wnawn

• Cydweithio tuag nodau cyffredin

• Buddsoddi yn ein pobl

• Rheolaeth agored, gadarn ac effeithiol