Ymrwymiad y Rhiant
Rwyf yn ymrwymo i sicrhau fod fy mhlentyn yn mynychu’r ysgol yn brydlon a rheolaidd er mwyn derbyn addysg amser llawn priodol a byddaf yn eich hysbysu os na fydd modd i’m plentyn fod yn bresennol.
Ymrwymaf i gydweithio â’r ysgol wrth ymgyrraedd tuag eich cenhadaeth a’ch amcanion.
Rwy’n cydnabod fod gennyf gyfraniad hanfodol i’w wneud wrth feithrin ymddygiad da ac i gydweithio â’r ysgol yn eich nod o greu awyrgylch cynhaliol sydd yn meithrin parch tuag at yr unigolyn, a hefyd i osod disgwyliadau uchel wrth anelu i ddatblygu potensial pob disgybl yn llawn.
Rhan bwysig o hyn yw hyrwyddo ac annog defnydd o’r Gymraeg gan fy mhlentyn.