Ymrwymiad y Disgybl
Rwyf yn ymrwymo i wneud fy ngorau ac ymateb yn bositif i gyngor yr athrawon ac i ddefnyddio’r Gymraeg yn yr ysgol cymaint â phosib.
Rwy’n derbyn y Siartr Ymddygiad ac yn sylweddoli fod gen i gyfraniad pwysig i’w wneud at awyrgylch Gymraeg a chynhaliol yr ysgol.
Rwy’n cydnabod fod gen i hawliau ond hefyd ei bod hi’n bwysig parchu hawliau unigolion eraill hefyd.