Llenyddiaeth Gymraeg
CA4 (Blwyddyn 10-11)
Adran:
Mr H Hughes - Pennaeth Adran
Mrs H Lewis
Mrs S James
Miss B Jones
Mrs B Morgan
Miss A Rogers
Miss D Roberts
I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk
Trydar: @CymraegYGBM
Amcanion Cyffredinol
Nod y cwrs yw creu diddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg drwy annog disgyblion i ddarllen yn eang ac astudio mewn dyfnder enghreifftiau o lenyddiaeth safonol. Bydd cyfle i drafod ar lafar ac ymateb i ystod lawn o ddarnau darllen gan godi ymwybyddiaeth o’r cefndir llenyddol.
Manylion y Cwrs
Astudir nofel a detholiad o gerddi yn y cwrs ar themâu amrywiol, gan ymdrin â hwy yn feirniadol ac fel sbardun ar gyfer gwaith creadigol. Astudir agweddau o lunyddiaeth - drama a ffilm - ar gyfer yr arholiad llafar.
Dulliau Asesu
Uned 1 Arholiad Barddoniaeth (1 ¼ awr) – 25%
Gwerthfawrogi a chymharu un o’r cerddi gosod a cherdd nas astudiwyd o’r blaen.
Uned 2 Arholiad Nofel (1 ¼ awr) – 25% Cwestiynau ar y nofel osod.
Uned 3 Arholiad Llafar – 25% Trafod, mewn grwpiau o dri, rhaglen deledu neu ffilm a addaswyd o gyfrol brintiedig
Uned 4 Asesiad Diarholiad - Gwaith Cwrs – 25%
Straeon Byrion: Tasg feirniadol wedi’i seilio ar ddwy stori fer
Drama: Tasg greadigol wedi’i seilio ar ddrama neu raglen deledu neu ffilm
Mae dwy haen i raddau TGAU sef papurau arholiad gwahaniaethol:
A* - D (Haen Uwch)
C – G (Haen Sylfaenol)