Skip to content ↓
Arweinydd Pwnc:

Miss Sian Gimblett 

I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk

“Mae’r cwrs yn hwylus ac rwyf wedi mwynhau y teithiau i Longleat, Llundain a Chaerdydd” Disgybl Blwyddyn 12

Gweithgareddau Ychwanegol:

CA4 (Blwyddyn 10-11)

Pam astudio Twristiaeth?

Mae’r cymhwyster yn cynnwys llawer o weithgareddau cysylltiedig â gwaith ym maes twristiaeth a hefyd yn darparu ar gyfer dysgu mewn amrywiaeth o gyd-destunau gan alluogi dysgwyr i gymhwyso ac ehangu eu dysgu. Fel y cyfryw, mae’r cymhwyster yn rhoi gwerthfawrogiad eang i’r dysgwyr o weithio ym maes twristiaeth a chyfleoedd ehangach ar gyfer camau dilyniant i addysg bellach, cyflogaeth neu hyfforddiant.

 

Beth yw cynnwys y cwrs?

 

Pryd?

Teitl Uned

Asesiad

Oriau Dygsu

Bl 10

Uned 1 : Profiad y Cwsmer

Mewnol

30

Bl 10

Uned 2 : Busnes Twristiaeth

Allanol

30

Bl 11

Uned 3 : Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y DU

Mewnol

60

 

Asesiad Mewnol

Uned 1: Profiad y Cwsmer

Uned 3: Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y DU

 

Caiff unedau eu hasesu drwy asesiadau cyfunol dan reolaeth;

• Darperir rheolaethau ar gyfer asesu pob uned a gaiff ei hasesu’n fewnol mewn aseiniad enghreifftiol;

• Mae’n rhaid i bob uned a gaiff ei hasesu’n fewnol gael ei hasesu’n annibynnol. Gall y dysgwyr gyflwyno darn o dystiolaeth sy’n cyfrannu at y meini prawf asesu ar gyfer mwy nag un uned. Mae hyn yn dderbyniol, ar yr amod y gellir ei phriodoli’n glir i faen prawf asesu penodedig a’i bod wedi’i chynhyrchu dan reolaeth briodol ar gyfer pob uned;

• Darperir bandiau perfformiad ar gyfer Llwyddiant Lefel 1, Llwyddiant Lefel 2, Teilyngdod Lefel 2 a Rhagoriaeth Lefel 2. Mae’n rhaid i’r dystiolaeth ddangos yn glir sut y mae’r dysgwr wedi cyrraedd y safon ar gyfer y graddau uwch.

 

Bydd tri cham asesu dan reolaeth:

• Pennu tasgau

• Cyflawni tasgau

• Marcio tasgau.

 

Asesiad Allanol Uned 2 : Busnes Twristiaeth

• Arholiad 75 munud

• Ar gael ym mis Mehefin bob blwyddyn

• Cânt eu graddio gan ddefnyddio Llwyddiant Lefel 1, Llwyddiant Lefel 2, Teilyngdod Lefel 2 a Rhagoriaeth Lefel 2.

CA5 (Blwyddyn 12-13)

Arweinydd Pwnc: Miss Sian Gimblett
Bwrdd Arholi: Edexcel
Arholiadau: 0%
Gwaith cwrs: 100%

Anghenion Mynediad:

Angen 5 gradd C TGAU gan gynnwys C neu fwy yn Saesneg, Llên a Iaith, Chymraeg Llên a Iaith a Mathemateg.

Beth yw Teithio a Thwristiaeth?

Mae Diploma Cyfrannol Teithio a Thwristiaeth yn cynnig cymhwyster arbenigol sydd yn ffocysu ar agweddau arbennig o gyflogaeth o fewn y sector galwedigaethol. Twristiaeth yw un or diwydiannau mwyaf ym Mhrydain sydd werth £115 billiwn y flwyddyn. Mae’n cyflogi 2.6 milliwn o bobl. Mae’r Pearson BTEC Lefel 3 Tystysgrif mewn Teithio a Thwristiaeth yn help pobl ifanc i baratoi am y byd gwaith.

Beth fyddaf yn dysgu o fewn Teithio a Thwristiaeth?

Mae cynnwys y cwrs yn son am ddatblygiadau’r diwydiant a’r ffactorau sydd yn effeithio ar y diwydiant. Mae’r cwrs felly yn addas i disgyblion sydd a diddordeb i barhau ei dyfodol o fewn teithio a thwristaieth neu yn addas i ddisgyblion sydd a diddordeb mewn maes tebyg megis astudiaethau Busnes neu Daearyddiaeth.

Cynnwys y cwrs:

Uned 1: Cyflwyniad i Deithio a Thwristiaeth

Uned 2: Prydain Fel Cyrchfan

Uned 3: Busnes o fewn Teithio a Thwristiaeth

Bydd yr uchod yn cael ei gyflawni ym mlwyddyn 12 i ennill Tystysgrif BTEC sy’n gymersur ag un Safon Uwch Gyfrannol. Bydd opsiwn i barhau ar y cwrs ym Mlwyddyn 13 lle astudir 3 uned ddewisol i gyflawni’r Diploma Cyfrannol sy’n gymesur ag un Safon Uwch.

Gyrfaoedd posib:

Mae’r BTEC Cenedlaethol mewn Twristiaeth a Theithio yn cynnig cyfleodd i ddysgwyr gael mynediad i gyflogaeth yn y sector Twristiaeth a Theithio neu Hamdden, neu i ddilyn cwrs addysg uwch galwedigaethol fel y BTEC Cenedlaethol Uwch mewn Twristiaeth a Theithio.

Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:

https://qualifications.pearson.com/en/qualifications/btec-nationals/travel-and-tourism-2010.html