Technoleg Gwybodaeth
Adran:
Mrs L Watkins - Pennaeth Adran
Mr D Owen
Mr H Williams
I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk
Gweithgareddau Ychwanegol:
- Clwb Codio
- Lego Roboteg
- Cystadleuaeth blynyddol Lego Roboteg
- Cystadlaethau Codio
- Taith Legoland
CA3 (Blwyddyn 7-9)
Blwyddyn |
Tymor |
Themau |
7 |
Hydref |
Cyflwyniadau Cyhoeddi Bwrdd Gwaith Prosesu Geiriau e-ddiogelwch Animeiddiad (Word a PowerPoint) |
|
Gwanwyn |
Modelu Taenlenni Trin Data (Excel ac Access) |
|
Haf |
Cyfrifiadureg Rhaglennu Scratch Microbit |
8 |
Hydref |
Creu gwefan Hypergysylltiadau Rhaglennu |
|
Gwanwyn |
e-ddiogelwch Trin fideo - VideoPad Prosesu Geiriau Animeiddio |
|
Haf |
Rhaglennu Kodu Lego Robotics |
9 |
Hydref |
Rhaglennu - Python Prosiect Band/Artist Cyhoeddi Bwrdd Gwaith Prosesu Geiriau |
|
Gwanwyn |
Taenlenni Appiau |
|
Haf |
Creu gwefan |
CA4 (Blwyddyn 10-11)
Manylion y Cwrs:
Mae’r cwrs hwn mewn TGCh yn gofyn i ddysgwyr ddangos y gallu i:
• feddwl yn greadigol, yn rhesymegol ac yn feirniadol
• dewis, defnyddio ac integreiddio offer a thechnegau TGCh i fodloni anghenion
• canfod, dethol a gwerthuso gwybodaeth o ran ei pherthnasedd, ei gwerth, ei chywirdeb a’i chredadwyedd
• trin a phrosesu data a gwybodaeth arall, rhoi trefn ar gyfarwyddiadau dilyniant, modelu sefyllfaoedd ac archwilio syniadau
• cyfathrebu data a gwybodaeth mewn ffurf addas i’w pwrpas ac i’r gynulleidfa
• mabwysiadu arfer diogel a chyfrifol wrth ddefnyddio TGCh
• datblygu datrysiadau TGCh addas ac effeithiol mewn amrywiaeth o gyddestunau
• gwerthuso eu defnydd eu hunain a defnydd pobl eraill o TGCh.
Dulliau Asesu
Mae’r cwrs yma wedi ei rannu i bedair uned
Uned 1: Deall TGCh
Gradd Unigol 20%
Asesiad Allanol: 1½ awr 80 marc (40 GMU)
Bydd y papur arholiad hwn yn asesu gofynion y Rhaglen Astudio Cyfnod Allweddol 4 Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu ac elfennau gweithredol TGCh yng nghyd-destun y cartref a’r ysgol.
Uned 2: Datrys problemau gyda TGCh
Gradd Unigol 30%
Asesiad dan reolaeth: 22½ awr 80 Marc (60 GMU)
Mae’r asesiad dan reolaeth hwn yn cynnwys portffolio o waith sy’n dangos cyrhaeddiad ymgeiswyr wrth gaffael a dehongli gwahanol fathau o wybodaeth; defnyddio, datblygu a chyfathrebu gwybodaeth i fodloni pwrpas eu hastudiaethau a chyflwyno canlyniadau eu gwaith. Bydd yr aseiniad hwn yn asesu agweddau ymarferol elfennau gweithredol TGCh.
Uned 3: TGCh mewn Sefydliadau
Gradd Unigol 20%
Asesiad Allanol: 1½ awr 80 Marc (40 GMU)
Bydd y papur arholiad hwn yn asesu cynnwys ‘cymhwysiad’ TGCh mewn cyddestun busnes a diwydiant.
Uned 4: Datblygu Datrysiadau TGCh Amlgyfrwng
Gradd Unigol 30%
Asesiad dan reolaeth: 22½ awr 80 Marc (60 GMU)
Bydd yr asesiad dan reolaeth hwn yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ddatblygu darn o waith gan ddefnyddio meddalwedd amlgyfrwng gan ddilyn briff tasg unigol y bydd CBAC yn ei gyhoeddi.
Y dyfodol?
Mae’r cwrs yn paratoi disgyblion ar gyfer her y dyfodol. Mae’r cwrs yn sylfaen ardderchog ar gyfer unrhyw gwrs addysg bellach ac unrhyw swydd o fewn diwydiant. Bydd y cwrs yn hybu addasrwydd disgyblion ar gyfer y byd gwaith, gan ddangos i ddarpar cyflogwyr bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol.