Skip to content ↓
Pwnc pwysig a pherthnasol ar gyfer deall y byd o’n cwmpas, mae gan ddisgyblion y cyfle i raglenni gan ddefnyddio amrywiaeth o ieithoedd rhaglenni gan gynnwys Scratch, Microbit a Python yn ogystal â chreu eu gwefannau eu hunain.  Mae technoleg yn newid y byd o’n cwmpas yn ddyddiol ac yn YGBM rydym yn credu ym mhwysigrwydd arfogi ein disgyblion i fanteisio ar y newidiadau yma.  Yn ychwanegol, mae diogelwch ar-lein yn elfen allweddol sy’n cael ei ddysgu i sicrhau bod ein disgyblion yn defnyddio’r wê yn saff.
Adran:

Mrs L Watkins - Pennaeth Adran

Mr D Owen 

Mr H Williams 

I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk

 

Gweithgareddau Ychwanegol:
  • Clwb Codio
  • Lego Roboteg
  • Cystadleuaeth blynyddol Lego Roboteg
  • Cystadlaethau Codio
  • Taith Legoland

CA3 (Blwyddyn 7-9)

 

Blwyddyn

Tymor

Themau

7

Hydref

Cyflwyniadau

Cyhoeddi Bwrdd Gwaith

Prosesu Geiriau

e-ddiogelwch

Animeiddiad

(Word a PowerPoint)

 

Gwanwyn

Modelu Taenlenni

Trin Data

(Excel ac Access)

 

Haf

Cyfrifiadureg

Rhaglennu

Scratch

Microbit

8

Hydref

Creu gwefan

Hypergysylltiadau

Rhaglennu

 

Gwanwyn

e-ddiogelwch

Trin fideo - VideoPad

Prosesu Geiriau

Animeiddio

 

Haf

Rhaglennu

Kodu

Lego Robotics

9

Hydref

Rhaglennu - Python

Prosiect Band/Artist

Cyhoeddi Bwrdd Gwaith

Prosesu Geiriau

 

Gwanwyn

Taenlenni

Appiau

 

Haf

Creu gwefan

 

CA4 (Blwyddyn 10-11)

Manylion y Cwrs:

Mae’r cwrs hwn mewn TGCh yn gofyn i ddysgwyr ddangos y gallu i:

• feddwl yn greadigol, yn rhesymegol ac yn feirniadol

• dewis, defnyddio ac integreiddio offer a thechnegau TGCh i fodloni anghenion

• canfod, dethol a gwerthuso gwybodaeth o ran ei pherthnasedd, ei gwerth, ei chywirdeb a’i chredadwyedd

• trin a phrosesu data a gwybodaeth arall, rhoi trefn ar gyfarwyddiadau dilyniant, modelu sefyllfaoedd ac archwilio syniadau

• cyfathrebu data a gwybodaeth mewn ffurf addas i’w pwrpas ac i’r gynulleidfa

• mabwysiadu arfer diogel a chyfrifol wrth ddefnyddio TGCh

• datblygu datrysiadau TGCh addas ac effeithiol mewn amrywiaeth o gyddestunau

• gwerthuso eu defnydd eu hunain a defnydd pobl eraill o TGCh.

 

Dulliau Asesu

Mae’r cwrs yma wedi ei rannu i bedair uned

 

Uned 1: Deall TGCh

Gradd Unigol 20%

Asesiad Allanol: 1½ awr 80 marc (40 GMU)

 

Bydd y papur arholiad hwn yn asesu gofynion y Rhaglen Astudio Cyfnod Allweddol 4 Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu ac elfennau gweithredol TGCh yng nghyd-destun y cartref a’r ysgol.

 

Uned 2: Datrys problemau gyda TGCh

Gradd Unigol 30%

Asesiad dan reolaeth: 22½ awr 80 Marc (60 GMU)

 

Mae’r asesiad dan reolaeth hwn yn cynnwys portffolio o waith sy’n dangos cyrhaeddiad ymgeiswyr wrth gaffael a dehongli gwahanol fathau o wybodaeth; defnyddio, datblygu a chyfathrebu gwybodaeth i fodloni pwrpas eu hastudiaethau a chyflwyno canlyniadau eu gwaith. Bydd yr aseiniad hwn yn asesu agweddau ymarferol elfennau gweithredol TGCh.

 

Uned 3: TGCh mewn Sefydliadau

Gradd Unigol 20%

Asesiad Allanol: 1½ awr 80 Marc (40 GMU)

 

Bydd y papur arholiad hwn yn asesu cynnwys ‘cymhwysiad’ TGCh mewn cyddestun busnes a diwydiant.

 

Uned 4: Datblygu Datrysiadau TGCh Amlgyfrwng

Gradd Unigol 30%

Asesiad dan reolaeth: 22½ awr 80 Marc (60 GMU)

 

Bydd yr asesiad dan reolaeth hwn yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ddatblygu darn o waith gan ddefnyddio meddalwedd amlgyfrwng gan ddilyn briff tasg unigol y bydd CBAC yn ei gyhoeddi.

 

Y dyfodol?

Mae’r cwrs yn paratoi disgyblion ar gyfer her y dyfodol. Mae’r cwrs yn sylfaen ardderchog ar gyfer unrhyw gwrs addysg bellach ac unrhyw swydd o fewn diwydiant. Bydd y cwrs yn hybu addasrwydd disgyblion ar gyfer y byd gwaith, gan ddangos i ddarpar cyflogwyr bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol.