Skip to content ↓
CA5 (Blwyddyn 12-13)
Arweinydd Pwnc: Mrs Laura Watkins
I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk
Bwrdd Arholi: CBAC
Arholiadau: 40%
Gwaith cwrs: 60%

“Mae’r cwrs hyn yn un anhygoel sy’n ddysgu ni sgiliau angenrheidiol am yr dyfodol. Mae technoleg gwybodaeth yn allweddol mewn bywydau pob un ohonych ac mae’r cwrs yma yn rhoi’r sgiliau hanfodol o greu gwefannau, cronfa ddata ac taenlen. Mae’r Gwaith yn gallu fod yn heriol ond mae’n hwyl. Hefyd mae’n yr unig pwnc dydw I ddim wedi ysgrifennu mewn eto.” Morgan Davies (Blwyddyn 13)

“Credaf fod y cwrs Tech Gwyb yn ddefnyddiol, ac mi rydw i’n mwynhau’r gwaith.” Erin Anstey (Blwyddyn 13)

 

Anghenion Mynediad:

Mae’n orfodol fod disgybl wedi ennill Gradd A*-C (neu gyfatebol) mewn TGAU TGCh ac yn ddymunol fod wedi cael Gradd A-C mewn Saesneg/Cymraeg a Mathemateg cyn cychwyn ar y fanyleb.

Beth yw TGCh Cymhwysol?

Mae’r cwrs TGCh Cymhwysol yn cynnig brofiad cyfoes iawn i fyfyrwyr ac mae’n hyrwyddo creadigedd myfyrwyr trwy gynllun asesu dibapur. Mae problemau byd real angen datrysiadau byd real, datrysiadau sy’n cydnabod natur amlweddog TGCh yn y gymdeithas heddiw. Mae’r cwrs yn galluogi i’r disgyblion ddatblygu eu sgiliau yn y meysydd canlynol:

• TGCh a busnes • Rheoli prosiect • Dylunio amlgyfrwng

Beth fyddaf yn dysgu o fewn TGCh?

Mae’r cwrs hwn mewn TGCh yn gofyn i ddysgwyr ddangos y gallu i:

• feddwl yn greadigol, yn rhesymegol ac yn feirniadol

• dewis, defnyddio ac integreiddio offer a thechnegau TGCh i fodloni anghenion

• canfod, dethol a gwerthuso gwybodaeth o ran ei pherthnasedd, ei gwerth, ei chywirdeb a’i chredadwyedd

• trin a phrosesu data a gwybodaeth arall, rhoi trefn ar gyfarwyddiadau dilyniant, modelu sefyllfaoedd ac archwilio syniadau

• cyfathrebu data a gwybodaeth mewn ffurf addas i’w pwrpas ac i’r gynulleidfa

• mabwysiadu arfer diogel a chyfrifol wrth ddefnyddio TGCh

• datblygu datrysiadau TGCh addas ac effeithiol mewn amrywiaeth o gyd-destunau

• gwerthuso eu defnydd eu hunain a defnydd pobl eraill o TGCh.

Cynnwys y cwrs:

• Uned 1 - eFusnes

• Uned 2 - eSgiliau

• Uned 3 – eBrosiect

• Uned 4 - eStiwdio

Gyrfaoedd posib:

Mae’r fanyleb hon wedi ei llunio i roi sail addas ar gyfer astudio TGCh, neu faes astudio perthynol, mewn addysg bellach neu uwch a/neu baratoad ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.

Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:

https://www.wjec.co.uk/qualifications/ict/r-applied-information-and-communication-technology-gce/