Skip to content ↓
Prydlondeb

O’r dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6, mae’r ysgol yn dechrau am 9.00yb. (Meithrin bore 9:00yb, Meithrin prynhawn 1:00yp). Sicrhewch os gwelwch yn dda, fod eich plentyn yn brydlon. Rydym yn awyddus i’ch plentyn ffurfio arferion da. Mae prydlondeb yn bwysig iawn ac mae hwyrddyfodiaid yn tarfu ar addysg eu hunain ac ar addysg plant eraill. Os fydd eich plentyn yn cyrraedd yr ysgol ar ôl y gofrestr fe fydd angen i chi arwyddo ein llyfr hwyr o 9.00am bob dydd.

YN DILYN CANLLAWIAU AR AWDURDODI PRESENOLDEB YR AWDURDOD MAE BWRDD LLYWODRAETHOL YR YSGOL WEDI DATGAN NA FYDD  UNRHYW WYLIAU YN CAEL EU AWDURDODI. (ERS MEDI 2015)

 

Cyrraedd

Mae'r mynediad i'r disgyblion trwy y llwybr i'r chwith o'r adeilad.

Mae disgyblion Meithrin yn dod i mewn i'w ystafell ddosbarth ar y chwith, rhwng y gitatau i'r ddau maes chwarae. 

Mae disgyblion Cyfnod Sylfaen yn dod i mewn drwy'r ail giat i'w maes chwarae wrth gefn yr ysgol ac yn chwarae nes amser rhesi am 9:00yb.

Mae Cyfnod Allweddol 2 (Blwyddyn 3-6) yn dod i mewn trwy'r giat cyntaf ar flaen y maes chwarae ac yn chwarae nes amser rhesi am 9:00yb.

Does dim hawl i rieni mynd i mewn i'r maes chwarae.  Bydd cyfle i siarad gdya aelod o staff sydd ar ddyletswydd os oes gdya chi gwestiwn.

Cagslu

Gofynnwn yn garedig i chi hysbysu’r ysgol os oes rhywun gwahanol/newydd yn casglu eich plentyn ar ddiwedd y dydd.  Byddwn ni dim ond yn rhyddhau’r plant i oedolyn sydd wedi ei enwi ar becyn data y plentyn.

Rhaid i’r unigolyn fod dros 16 oed.

Os ydych am gasglu eich plentyn yn gynt oherwydd apwyntiad penodol byddwn yn gofyn i chi lofnodi ein llyfr.

Absenoldebau

Ffoniwch yr ysgol cyn 9.30yb os fydd eich plentyn yn absennol er mwyn egluro’r rheswm am yr absenoldeb. Bydd rhywun yn y swyddfa o 8.30yb ymlaen i ateb eich galwadau. Os na dderbyniwn alwad ffôn erbyn 10yb, byddwn yn cysylltu gyda chi drwy neges destun neu alwad ffôn.