Skip to content ↓

Nodweddion Personol

Gan ein bod yn rhoi pwyslais sylweddol ar ddatblygiad y disgybl cyflawn rydym hefyd yn adrodd yn ôl ar nodweddion personol eich plentyn fel yr ydym yn eu gweld yn yr ysgol.  Bydd pob athro yn dynodi gradd ar gyfer ystod o nodweddion fel a ganlyn:

Cyrhaeddiad  - Lefel CA3, Gradd TGAU, AS a Lefel ‘A’

Ymdrech:

Rhagorol

Disgybl sy’n ddibynadwy, cydwybodol, ac yn llwyr ymroddedig. Yn cwrdd â dyddiadau cyflwyno bob amser ac yn drefnus. Un sy’n annibynnol, yn flaengar ac yn mynd y filltir ychwanegol yn gyson. 


Da

Yn bositif ac ymroddedig gan amlaf. Yn cwrdd â dyddiadau cyflwyno fel arfer. Yn ddibynadwy a phositif ar y cyfan. 


Boddhaol

Yn ymroi yn achlysurol ond yn dueddol o fod yn rhy oddefol. Yn gwneud digon yn unog i ddiwallu gofynion y dasg.  Yn cyflwyno gwaith yn hwyr yn aml ac yn anghofus ar brydiau. Diffyg trefn yn gyffredinol.


Anfoddhaol

Diffyg cymhelliant ac yn ei chael hi’n anodd i ganolbwyntio. Diffyg ymdrech yn gyffredinol. Gwaith brysiog ac annigonol. Cyflwyno gwaith yn hwyr bob amser. Yn anghofus a di-drefn.