Mae camau cyntaf eich plentyn yn yr ysgol yn gamau pwysig i chi gyd. Mae’n hollbwysig felly ein bod ni yn gweithio gyda chi i sicrhau fod y cyfnod arbennig yma yn un esmwyth a buddiol i bawb.
Cyngor Bro Morgannwg sydd yn rheoli ac yn gweinyddu’r broses o fynediad i’r ysgol. Mae gan bob ysgol ddalgylch ei hunan ac fel arfer mae rhieni yn dewis ysgol leol i’w plant o fewn y dalgylch honno.
Mae hawl gan rieni i ddatgan dewis amgenach hefyd. Bydd plant yn dechrau yn y dosbarth Meithrin y tymor cyntaf ar ôl eu penblwydd yn 3 oed. Yna bydd gofyn i chi ail-ymgeisio am le i’ch plentyn yn y Derbyn.
Ceisiwn weithio gyda chi i sicrhau fod eich plentyn yn cael dechrau hapus yn yr ysgol.