BTEC Cerddoriaeth
CA5 (Blwyddyn 12-13)
"Rwyf yn hoff iawn o waith ymarferol ac felly mae’r cwrs yn addas iawn i fi. Mae’n gyfle i ddatblygu sgiliau perfformio unigol ac o fewn grwp. Yn ogystal â datblygu sgiliau perfformio, rwyf yn datblygu sgiliau sydd yn sicrhau fy mod yn gallu gweithio gydag eraill. Mae’r cwrs yn un llawn hwyl gyda llawer o gyfle i berfformio i gynulleidfa ac o fewn y dosbarth.”
Anghenion Mynediad:
Mae cymhwyster TGAU cerdd yn ddelfrydol ond ddim yn hanfodol i ddilyn y cwrs yma, er bod y gallu i berfformio yn safonol yn holl bwysig. Fe fydd mynediad i’r cwrs yn ddibynol ar glyweliad neu safon eich sgiliau perfformio ar y cwrs TGAU.
Beth yw Cerdd BTEC?
Cwrs sydd yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau canu/ offerynnol mewn gweithdai amrywiol. Mae’r cwrs yn un ymarferol a cewch gyfle i wella’ch sgiliau gwrando a defnyddio offer sain, gweithio mewn band / grŵp; trefnu a pherfformio gigs.
Beth fyddaf yn dysgu o fewn TGCh?
Wrth astudio’r cwrs byddwch yn datblygu sgiliau perfformio unigol ac ensemble yn ogystal â sgiliau cyflwyno wrth werthuso a dadansoddi darnau cyfoes o gerddoriaeth. Byddwch yn datblygu ffurf o drefnu a chynllunio perfformiadau estynedig yn unigol ac fel grŵp. Bydd y cwrs yn eich cynorthwyo i wella eich sgiliau cydweithio ag eraill wrth ddethol repertoire a pherfformio.
Cynnwys y cwrs:
Mae 6 uned i’w hastudio dros gyfnod o ddwy flynedd. Dyma enghreifftiau o’r unedau a gynnigir:
• Gweithio a Datblygu Fel Ensemble
• Sgiliau Perfformio Unigol
• Perfformio arddulliau sesiwn
• Uned Pop
• Technegau Perfformio
• Prosiect Perfformio
Gyrfaoedd posib:
Gall y cwrs arwain at astudiaethau pellach neu yrfa mewn Perfformio, Byd Adloniant a Diwydiant Cerdd, Gwaith Sain, Cynhyrchu a Recordio a Byd Gweinyddol y Celfyddydau.
Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs :
https://qualifications.pearson.com/en/qualifications/btec-nationals/music-2010.html