Iechyd a Gofal
CA4 (Blwyddyn 10-11)
NODAU:
Mae dilyn cwrs mewn T.G.A.U Iechyd a Gofal Cymdeithasolyn arwain at:
annog dysgwyr i gael eu hysbrydoli, eu symbylu a’u newid trwy ddilyn cwrs astudio eang, cydlynus, sy’n bodloni ac sy’n werth chweil a chael golwg ar sectorau cysylltiedig.
• paratoi dysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am gyfleoedd dysgu pellach a dewisiadau gyrfa.
• gymryd rhan yn weithredol ym mhrosesau iechyd a gofal cymdeithasol, i ddatblygu dysgwyr effeithiol ac
• annibynnol.
• deall agweddau ar ddatblygiad personol, a’r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar, trwy archwilio a gwerthuso amrywiaeth o wasanaethau a sefydliadau .
• datblygu dull beirniadol a dadansoddol tuag at ddatrys problemau yn y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar.
• archwilio materion sy’n effeithio ar natur ac ansawdd bywyd dynol, gan gynnwys gwerthfawrogiad o amrywiaeth a materion diwylliannol.
• ddatblygu eu hymwybyddiaeth o’r dylanwadau ar iechyd a lles yr unigolyn.
• deall pwysigrwydd symbyliad a chefnogaeth wrth wella iechyd.
Uned 1: Asesiad dan reolaeth: 25 awr 60% o’r cymhwyster 120 marc
Bydd yr uned hon yn galluogi ymgeiswyr i ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o’r prif ddarpariaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaeth plant sydd ar gael i fodloni anghenion unigolion.
Bydd ymgeiswyr yn dysgu am:
• anghenion gofal unigolion.
• mathau o wasanaethau gofal.
• y ffyrdd o gael gwasanaethau gofal a’r rhwystrau rhag mynediad.
• prif rolau gwaith a sgiliau pobl sy’n darparu gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol gwasanaethau plant.
• egwyddorion gofal.
Tasg 1: Darparu gwasanaethau iechyd.
Y dasg yma yn cyfrannu 20% o’r radd.
Bydd angen archwilio anghenion iechyd a gofal cymdeithasol unigolyn yn ei ardal leol ac asesu’r ddarpariaeth sydd ar gael.
Tasg 2: Hybu Iechyd a Lle
Y dasg yma yn cyfrannu 40% o’r radd.
Bydd angen archwilio’r ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn ei ardal leol ar gyfer grŵp cleientiaid ac asesu sut caiff anghenion y grŵp cleientiaid eu bodloni.
Uned 2: Papur Ysgrifenedig: 1 awr, 15 munud 40% o’r cymhwyster 80 marc
Twf a Datblygiad Dynol i ddarparu gofal effeithiol, mae angen i weithwyr yn y gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a phlant wybod am y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn tyfu ac yn datblygu yn ystod eu bywyd. Bydd yr uned hon yn caniatáu i ymgeiswyr ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o broses twf a datblygiad dynol a’r gwahanol ffactorau sy’n gallu effeithio ar unigolion.
Bydd ymgeiswyr yn dysgu am:
• dwf a datblygiad dynol.
• y ffactorau sy’n effeithio ar dwf a datblygiad.
• datblygiad hunangysyniad.
• newidiadau bywyd a ffynonellau cefnogaeth.