Skip to content ↓
Mae’r cwrs atyniadol yma yn arwain ein disgyblion ar daith drwy oes y Tuduriaid yr holl ffordd i’r Rhyfel Byd Cyntaf wrth ystyried y digwyddiadau sydd wedi siapio ein byd a’n cenedl heddiw.  Pam fethodd yr Armada?  Beth yw Siartiaeth? Sut adeiladwyd dociau'r Barri? Dim ond rhai o’r cwestiynau difyr caiff eu hateb.
Adran:

Miss R James - Pennaeth Adran

Mr S Evans

Mrs C Noakes

Mr G Powell

I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk

Trydar: @hanes_ygbm
Gweithgareddau Ychwanegol:
  • Taith Berlin
  • Taith Parc Treftadaeth y Rhondda (Blwyddyn 8)

‘Er ein bod ni’n astudio digwyddiadau o’r gorffennol, mae Hanes yn berthnasol i’r presennol a’r dyfodol. Mae astudio Hanes wedi caniatáu i mi ddatblygu nifer o sgiliau, yn enwedig sgiliau dadansoddi a gwerthuso sy’n caniatáu i mi edrych ar y byd fel hanesydd. Un o fy mhrofiadau mwyaf cofiadwy wrth astudio Lefel A Hanes oedd mynd i Auschwitz fel rhan o’r prosiect ‘Lessons from Auschwitz’. Roedd hwn yn brofiad bythgofiadwy!’

Ellie Huxter

CA3 (Blwyddyn 7-9)

 

Blwyddyn

Tymor

Thema

7

Hydref

Fy Mro (Dyniaethau). Uned o waith yn seiliedig ar adnabod cefndir Hanesyddol, Crefyddol a safle Daearyddol ardaloedd penodol yng Nghymru ‘bro’.

 

 

Gwanwyn

Fy Ngwlad (Dyniaethau). Uned o waith yn seiliedig ar Grefydd, Hanes a Daearyddiaeth Cymru.

 

 

Haf

Fy Myd (Dyniaethau). Prosiect dosbarth yn seiliedig ar Hanes, Daearyddiaeth ac Addysg Grefyddol gwledydd gwahanol y byd.

 

8

Hydref

1. Y Diwygiad Protestaniadd

2. Dehongliadau o Elisabeth I

3. Methiant yr Armada Sbaenaidd 

 

 

Gwanwyn

1. Cyfnod y Stiwartiaid

2. Y Chwyldro Diwydiannol (amodau’r pyllau glo)

3. Siartiaeth

 

 

Haf

1. Dociau’r Barri

2. Caethwasiaeth

 

9

Hydref

1.Achosion byr dymor a hir dymor y Rhyfel Byd Cyntaf

2. Effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar fenywod

3. Cadfridogion y Rhyfel Byd Cyntaf

 

 

Gwanwyn

Byd yr Ugeinfed Ganrif

1.Trychineb Aberfan

2. Cofio Tryweryn

3. John F Kennedy –arlywydd cryf neu gwan a’i lofruddiaeth

4. Terfysgaeth

 

 

Haf

Dechrau Uned 2 TGAU Hanes

UDA – Gwlad Gwahaniaethau 1910-29

1.Mewnfudo

2.Crefydd a Hil

 

 

CA4 (Blwyddyn 10-11)

“Not to know what happened before one was born is always to remain a child.” – Cicero

Amcanion Cyffredinol:

Ydych chi yn deall y byd yr ydym yn byw ynddo? Ydych chi eisiau gwella eich gwybodaeth a dealltwriaeth o’r hyn sydd ar y newyddion?

Dywed nifer ein bod yn dysgu gwersi o gamgymeriadau’r gorffennol ac eu bod yn llunio’r presennol. Wrth astudio’r cwrs modern a dynamig yma, byddwch yn datblygu ac yn ehangu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r byd ddoe, heddiw a’r dyfodol.

 

Bwriad y cwrs yw:

• Rhoi cyfle i astudio amrediad o ddigwyddiadau o hanes Cymru, Prydain a’r Byd.

• Ychwanegu at y wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth a gafwyd ym mlynyddoedd 7, 8 a 9.

• Rhoi cyfle i ddefnyddio sawl ffynhonnell gwybodaeth megis TGCh, ffynonellau ysgrifenedig a gweledol, arteffactau, cerddoriaeth, fideo ac adeiladau a safleoedd.

• Rhoi anogaeth a chyfle i ddefnyddio a gwella eich sgiliau ymchwil wrth astudio Hanes.

• Eich paratoi ar gyfer her y dyfodol.

 

Mae Hanes yn eich paratoi ar gyfer nifer o gyrsiau Lefel-A ac Addysg Uwch mewn coleg neu Brifysgol. Mae sawl gyrfa yn edrych yn ffafriol ar Hanes, fel addysg, y gyfraith, gwleidyddiaeth a’r gwasanaeth sifil, yr heddlu, newyddiaduriaeth, gwaith ymchwil, a llawer mwy. Mae 80% o reolwyr ym Mhrydain wedi astudio Hanes!

 

Manylion y Cwrs:

Mae’r Adran Hanes yn paratoi disgyblion blynyddoedd 10 ac 11 ar gyfer Maes Llafur Hanes CBAC (Cymru). Ceir ynddo gymysgedd o astudiaethau yn amrywio o draethodau i ymarfer a dehongli tystiolaeth. Bydd disgyblion yn astudio 4 uned

 

Uned 1 (Astudiaeth Fanwl) (25%) DIRWASGIAD, RHYFEL AC ADFERIAD, 1930-1951

• Bywyd yn ystod y Dirwasgiad

• Prydain a Bygythiad yr Almaen

• Y Rhyfel ar y Ffrynt Cartref

• Cymru a Lloegr wedi’r Ail Ryfel Byd

 

Uned 2 (Astudiaeth Fanwl) (25%) UDA: GWLAD GWAHANIAETHAU, 1910-29

• Problemau a sialensau

• Newid i’r economi

• Diwylliant a chymdeithas America

• Rôl menywod

 

Uned 3 (Astudiaeth Thematig) (30%) NEWIDIADAU YM MAES TROSEDD A CHOSB, tua 1000 hyd heddiw

• Achosion a natur troseddau

• Gorfodi cyfraith a threfn

• Dulliau o ymladd trosedd

 

Uned 4 (Gwaith Cwrs) (20%) ASESIAD DAN REOLAETH

Dau draethawd yn seiliedig ar ffynonellau hanesyddol.

 

Dulliau Asesu

Mae pawb yn sefyll yr un arholiad sydd yn rhoi cyfle i bawb gyrraedd A*.

CA5 (Blwyddyn 12-13)

Arweinydd Pwnc: Miss Rhiannon James
Bwrdd Arholi: CBAC 
Arholiadau: 80%
Gwaith cwrs: 20%

Anghenion Mynediad:

Rhoddir y cyfle i’r rhai sydd am barhau â’u hastudiaethau hanesyddol i ddilyn y cwrs. Dylech anelu i gyrraedd Gradd B neu’n uwch yn TGAU Hanes. Serch hynny, mae’n bosib hefyd i fyfyrwyr ail ymafael yn y pwnc os nad ydynt wedi ei astudio yn TGAU. Ystyrir pob cais yn unigol.

Beth yw Hanes?

Haneswyr! Wrth astudio’r gorffennol, gallwn wau’r dyfodol. Mae’r cwrs yn gofyn i chi ddefnyddio eich gwybodaeth, dealltwriaeth a beirniadaeth i gadw Hanes yn fyw. Mae Hanes yn ddefnyddiol er mwyn datblygu eich sgiliau i fynegi barn, cyflwyno syniadau a dadleuon, casglu ac ymchwilio deunydd a threfnu deunydd mewn ffordd gydlynol. Mae Hanes yn bwnc academaidd ac mae’r sgiliau y byddwch yn meithrin trwy astudio’r pwnc yn gallu cynnig rhywbeth i bob swydd a chwrs coleg neu brifysgol. Mae’n gymhwyster atyniadol i gyflogwyr.

Beth fyddech yn dysgu o fewn Hanes?

Bwriad y cwrs yw i gynnig astudiaeth gyffrous ac amrywiol, ac i sicrhau rydym yn astudio rhai cyfnodau hanesyddol gwahanol o’r hyn ag astudiwyd yn y cwrs TGAU. Byddwch yn astudio digwyddiadau hanesyddol hynod o ddiddorol a chyfareddol o fewn cyfnodau modern a chanoloesol yn ystod y cwrs. Defnyddir sawl dull o ddysgu ac addysgu megis trafodaeth seminar, cyflwyniadau llafar, ymchwilio ffynonellau, fideos, ymchwilio trwy ddefnyddio TGCh ac ymweliadau addysgol. Gobeithir hefyd trefnu darlithoedd allanol. Disgwylir i chi ymchwilio a darllen yn annibynnol.

Cynnwys y cwrs:

Uned 1 – Llywodraeth, Gwrthryfel a Chymdeithas yng Nghymru a Lloegr 1485-1603

Uned 2 – Yr Almaen: Democratiaeth i Unbennaeth 1918-1945

Uned 3 – Y Ganrif Americanaidd 1890-1990

Uned 4 - Yr Almaen: Democratiaeth i Unbennaeth 1918-1945

Uned 5 – Ymchwiliad Hanesyddol Unigol

Gyrfaoedd posib:

Mae Hanes yn fanteisiol ar gyfer y gyfraith, newyddiaduriaeth, swydd mewn archifdy ac amgueddfa, llyfrgellyddiaeth, gwasanaeth sifil, addysg, heddlu, lluoedd arfog, swyddi rheoli, y byd marchnata a gwerthu.

Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:

 https://www.cbac.co.uk/qualifications/history/r-history-gce-asa-from-2015/