Skip to content ↓
Adran:

Mrs S Williams

Mrs L Bowen

I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk

“Mae llawer o agweddau’r cwrs wedi gwneud ym ml 12, felly mae hyn yn rhoi hyder i ni am ein bod wedi gwneud yn sylfaenol unwaith. Rydym yn ymestyn sgiliau ymarferol TGAU. Mae dysgu gwybodaeth ar faeth yn arwain at nifer o yrfaoedd gwahanol. Nid yw’r cwrs yma fel unrhyw gwrs lefel A arall. Ni’n hoffi fe!”

CA3 (Blwyddyn 7-8)

Blwyddyn 7 - Mae pynciau yn cynnwys:

  • Y Canllaw Bwyta'n dda

Ceir cyfle i goginio:

  • salad ffrwythau
  • pasta salad
  • stir fry llysiau
  • pizza
  • sgonau
  • myffins brecwast
  • reis sawrus bendigedig
  • bisgedi ceirch
  • crwmbl ffrwythau
  • pocedi mecsicanaidd

 

Blwyddyn 8 - Mae cyfle i gymryd rhan yn y clwb brecwast a dylunio a chynhyrchu byrbryd i'w fwyta

Ceir cyfle i goginio:

  • myfins
  • fflapsiacs
  • bara
  • crwst
  • sgonau
  • dewis unigryw eich hunain

 

CA5 (Blwyddyn 12-13)

Gwyddor Bwyd a Maeth Lefel 3
Arweinydd Pwnc: Mrs Sian Williams
I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk
Bwrdd Arholi: CBAC
Arholiadau: 50%
Gwaith cwrs: 50%

Anghenion Mynediad:

Mae Lefel 2 Lletygarwch ac arlwyo yn ddelfydol ond nid yn orfodol.

Beth yw Gwyddor Bwyd a Maeth?

Mae dealltwriaeth Gwyddor Bwyd a Maeth yn berthnasol ar gyfer nifer o ddiwylliannau swyddi gwahanol. Mae darparwyr gofal a maethynnwyr mewn ysbytai yn defnyddio’r wybodaeth yma. Fel mae hyfforddwyr chwaraeon a hyfforddwyr ffitrwydd. Mae bwytai a gwestai, cynhyrchwyr bwyd ac asiantaethau’r llywodraeth yn defnyddio’r wybodaeth yma i gynllunio polisïau, bwydlenni a chynnyrch bwyd sydd yn cefnogi ymgyrchoedd bwyta’n iach.

Beth fyddaf yn dysgu o fewn Gwyddor Bwyd a Maeth?

Bydd ymgeiswyr yn cael y cyfle i ddysgu am y berthynas rhwng y corff dynol a bwyd yn ogystal â sgiliau ymarferol er mwyn coginio a pharatoi bwyd.

Cynnwys y cwrs:

1 Bodloni Anghenion Maethol Grwpiau Penodol

2 Sicrhau bod Bwyd yn Ddiogel i’w Fwyta

3 Arbrofi i Ddatrys Problemau Cynhyrchu Bwyd

4 Materion Cyfoes mewn Gwyddor Bwyd a Maeth

Gyrfaoedd posib:

Ynghyd â chymwysterau Lefel 3 perthnasol megis cymwysterau Lefel UG a Safon Uwch mewn Bioleg, Cemeg, Cymdeithaseg a Mathemateg a / neu Lefel 3 mewn Lletygarwch neu Wyddoniaeth, bydd dysgwyr yn cael y wybodaeth angenrheidiol i symud ymlaen i gyrsiau gradd addysg uwch, megis:

• BSc Bwyd a Maeth

• BSc Maeth Dynol

• BSc (Anrh) Maeth Iechyd y Cyhoedd

• BSc (Anrh) Gwyddoniaeth a Thechnoleg Bwyd

Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs: https://www.wjec.co.uk/qualifications/food-science-and-nutrition/