Gwisg Ysgol
RHEOLAU GWISG YSGOL
Fel ysgol rydym yn ymfalchïo yn ein safonau uchel o’r wisg ysgol ac ymarweddiad cyffredinol. Credwn fod y wisg yn ymarferol a syml tra ei fod hefyd yn cadw costau i lawr i deuluoedd.
Bydd eich mab/merch yn hollol ymwybodol o’r rheolau yma ond dyma rai o’r prif bwyntiau hoffwn dynnu eich sylw atynt:
Cynradd
- Ni chaniateir gwisgo gemwaith o unrhyw fath am resymau iechyd a diogelwch.
- Ni chaniateir gwisgo colur.
- Ni chaniateir paent ar yr ewinedd neu ewinedd ffug.
- Mae angen i wallt disgyblion fod yn un lliw naturiol heb steiliau eithafol.
Gwisg Dyddiol
- Sgert, ffrog binaffor neu drowsus nefi - dim chinos, ‘leggins’ neu drowsus sydd â bathodynau na botymau amlwg. Rhaid bod y sgert o hyd addas, nid llawer yn uwch na’r benglin
- Crys polo gyda bathodyn yr ysgol
- Siwmper neu gardigan swyddogol yr ysgol
- Esgidiau lledr plaen du - nid treinyrs
- Sanau neu deits nefi. Caniateir sanau gwyn gyda’r ffrogiau Haf.
Gwisg Haf Cynradd
- Ffrog haf glas a gwyn
- Crys polo swyddogol yr ysgol
- Crys chwys neu chardigan swyddogol yr ysgol
- Siorts nefi
Gwisg Ymarfer Corff Cynradd
- Siorts, ‘leggins’ neu drowsus ymarfer tywyll
- Daps neu esgidiau rhedeg
- Crys T llys neu grys T gwyn plaen
- Y Feithrin yn unig sy’n dod i’r ysgol wedi gwisgo yn barod yn eu dillad ymarfer corff. Mae pob dosbarth arall yn newid yn yr ysgol.
Hwdis Tripiau
Deallwn fod rhieni yn trefnu hwdis ‘Llangrannog’ i Flwyddyn 5 a ‘Glanllyn’ i Flwyddyn 6. Bydd lliw yr hwdi yn wyrddlas, yn las, neu’n liw a gytunwyd o flaen llaw gydag arweinydd y cynradd. Bydd logo swyddogol yr ysgol ar flaen yr hwdi. Caniateir gwisgo’r hwdi yn ystod y teithiau, ar ddiwrnodau gwisg anffurfiol neu ar ddiwrnod trip neu ymweliad dosbarth. Ni chaniateir gwisgo yr hwdi o ddydd i ddydd fel rhan o’r wisg ysgol.
Hwdis Ymadael Blwyddyn 6
Deallwn fod rhieni yn trefnu hwdis ‘Ymadael’ i Flwyddyn 6 yn flynyddol. Bydd lliw yr hwdi yn wyrddlas, yn las, neu’n liw a gytunwyd o flaen llaw gydag arweinydd y cynradd. Bydd logo swyddogol yr ysgol ar flaen yr hwdi. Caniateir gwisgo’r hwdi fel rhan o’r wisg ysgol o hanner tymor fis Chwefror ymlaen tan ddiwedd y flwyddyn. Dyma fydd y rheol bob blwyddyn ac mi fyddwn yn dosbarthu’r hwdis i’r disgyblion ar y diwrnod olaf cyn y gwyliau. Ni chaniateir gwisgo’r hwdi i gynrychioli’r ysgol mewn unrhyw gystadleuaeth ffurfiol e.e. yr Eisteddfod. Bydd gofyn i’r disgyblion wisgo’r siwmper neu gardigan swyddogol.
Uwchradd
- Ni chaniateir gemwaith na cholur yn yr ysgol
- Ni chaniateir steil gwallt anghyffredin
Gwisg Ddyddiol
- Esgidiau du plaen
- Dim 'Trainers'
- Dim sodlau uchel
- Crys polo a chrys chwys swyddogol yr ysgol
- Cot gnuog a/neu got law swyddogol yr ysgol YN UNIG
Naill ai:
- Trowsus nefi plaen clasurol (DIM jeans, chinos, flares, trowsus melfared neu wisg chwaraeon) gyda sannau nefi
- Sgert nefi hyd at y pengolin gyda sannau/deits nefi. Dim ond y sgert swyddogol o A Class Apart neu Ruckleys sydd yn dderbyniol.
Uwchradd: Gemau Ysgol
- Crys rygbi swyddogol yr ysgol
- Siorts neu sgert swyddogol yr ysgol
- Sanau glas swyddogol yr ysgol
- Trainers neu boots
Uwchradd: Gwersi Addysg Gorfforol
- Crys polo gwyn swyddogol
- Siorts glas swyddogol
- Sanau glas swyddogol
- Trainers
Chweched Ddosbarth
- Dim ond un freichled/mwclis/modrwy/gemwaith synhwyrol o ran maint. Caniateir colur ysgafn a lliwio ewinedd a phaent clir yn unig.
- Caniateir un par o stỳds ar waelod y glust.
- Ni chaniateir steil na lliw gwallt anghyffredin sydd ddim yn cadw at safon na steil gwisg yr ysgol.
- Sgert ddu blaen addas hyd at y ben-glin i’r merched. Ni chaniateir sgertiau tynn.
- Trowsus du plaen i’r bechgyn/merched (dim chinos, jeans, trowsus tynn, trowsus sydd â bathodynau amlwg na botymau amlwg)
- Esgidiau lledr plaen du nid trainers na daps canfas gyda logo arnynt.
- Sanau du neu deits du.
Mae gwisg ysgol ar gael yn y lleoliadau isod:
YC Sports Canton neu ar wefan YC Sports.
Mae sawl ffordd i brynu'r wisg o YC Sports:
- Gallwch archebu ar-lein a'i chael i'w gludo i'ch tŷ gyda thâl cludiant ychwanegol.
- Gallwch archebu ar-lein a defnyddio'r opsiwn 'Click and Collect' gyda chludiant am ddim.
- Gallwch archebu i'w gasglu o Brif dderbynfa'r ysgol
- Bydd gyda YC Sports siop 'pop up' ar ddiwedd pob hanner tymor yn yr ysgol.
- Neu gallwch ymweld â siop YC Sports:
YC Sports (Canton)
156 Cowbridge Rd East
Caerdydd
CF11 9DU
02920220246
Noder, does dim gwisg YGBM ar gael o'r gangen ar Crwys Road.
A Class Apart
Yn A Class Apart, rydym yn cynnig nifer o opsiynau prynu a danfon sy'n golygu y gallwch ddewis yr opsiwn sydd fwyaf addas i chi.
Gall archeb ar-lein gael eu casglu o'n siop, eu danfon i'ch cartref neu weithle, neu eu danfon i ysgol eich plentyn i'w casglu. Mae casglu o'r siop a danfoniadau i'r ysgol yn rhad ac am ddim.
Codir cyfradd safonol o £4.95 am ddanfoniadau i gyfeiriadau cartref neu waith.
Gellir prynu gwisg ysgol hefyd o'n siop:- A Class Apart, 9 The Parade, Dinas Powys, CF64 4NR.
Gwefan A Class Apart
Ff: 02920 515722 W: www.aclassapart.co.uk
Ruckleys
45-47 Holton Rd Barry CF63 4HB are now stocking Bro Morgannwg uniform.
We are open Monday to Saturday 10 am - 5 pm all year round but extend these hours during the back to school period. Please join us on facebook.com/ruckleys for regular updates.
We take cash and debit/ credit card and offer an easy payment plan.
You can phone up and pay and collect or we can deliver to school but we welcome face to face and pride ourselves on our friendly customer services. We even have a fluent Welsh speaker in our team.
Appointments are only necessary during July and August although we encourage year 7 pupils to book or call in May/June. Discounted bundles are available for families that shop early.
To book an appointment please follow this link https://outlook.office365.com/owa/calendar/RuckleysBooking1@Ruckleys.onmicrosoft.com/bookings/
Or call 01446 700006
Text/WhatsApp 07957 312 624
Rhoddion
Rydym yn derbyn gwisg ysgol ail law, gallwch ei adael ym mhrif fynedfa'r Cynradd neu'r Uwchradd.
Bydd angen i'r eitemau fod yn lân ac mewn cyflwr da.
Caiff y wisg ei werthu, ar bris wedi’i ostwng, mewn digwyddiadau ysgol.
Eiddo Coll
Caiff eiddo coll ei reoli gan Miss Cari Ormerod, Adran Wyddoniaeth.
Mae'n bwysig sicrhau bod offer a gwisg gydag enw'r disgybl yn glir arnynt. Os caiff unrhyw eiddo eu colli gydag enw, fe geisiwn ei ddosbarthu yn ôl i'r perchennog.
Os oes gyda chi unrhyw eiddo ar goll, cysylltwch â Miss Omerod i weld y cwpwrdd eiddo coll.