Skip to content ↓

Bydd yr offer canlynol yn ddefnyddiol i yrfa ysgol pob disgybl:

  • Pren mesur
  • pensil
  • dilëydd
  • onglydd a chwmpawd
  • Cyfrifiannell
  • Geiriadur Cymraeg
  • Geiriadur Saesneg a Thesawrws
  • Geiriadur Ffrangeg
  • Pensiliau lliw

Gwaherddir defnyddio piniau ffelt a phapur hylif (e.e. Tippex) yn yr ysgol.

Eiddo Personol

Apeliwn i rieni i sicrhau bod enw yn cael ei osod ar bob eitem o eiddo disgybl. Gofynnir i ddisgyblion i beidio â dod ag eitemau gwerthfawr gyda nhw i’r ysgol. Nid ydym yn annog y disgybl i ddod â ffôn symudol gyda ef/hi ond yr ydym yn deall fod rhai disgyblion eu hangen o safbwynt diogelwch wrth iddynt gerdded i ac yn ôl o’r ysgol. Felly disgwylir iddynt fod yn y bag ac wedi ei droi i ffwrdd. Os gwelir unrhyw ffôn yn yr ysgol fe fydd y disgybl yn derbyn rhybudd gan yr athro. Os caiff disgybl ei ddal yn defnyddio'r ffon, bydd yr athro yn casglu'r ffôn a disgwylir i riant ddod i gasglu'r ffon o'r Dderbynfa ar ddiwedd y dydd.   Ni chaniateir i ddisgyblion ddod ag offer clywedol megis i-pods neu chwaraewyr MP3 i’r ysgol.

Loceri

Caiff disgyblion blwyddyn 7 gynnig locer ar ddechrau'r flwyddyn.  Bydd angen talu blaendal o £10.00 ar ddechrau mis Medi a chaiff ei ddychwelyd am yr allwedd mis Gorffennaf.