Saesneg Llenyddiaeth
Adran:
Mrs Awel Emlyn - Pennaeth Adran
Ms Elena Morgan
Mrs Catrin Bennett
Mrs Eleri Evans
Mrs Ffion Harries
Mr Gwilym Jeffs
Mr Gethin Palmer
Miss Delyth Roberts
I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk
Trydar: YGBMSaesneg
“Mae astudio Llenyddiaeth Saesneg wedi bod yn agoriad llygad i fi mewn cymaint o ffyrdd. Mae’r gwersi yn heriol ond yn llawn hwyl a thrafodaethau difyr am y testunau. Mae’r testunau eu hunain yn amrywio, o ‘machismo’ Stanley yn New Orleans i fywyd Fictorianaidd yn Jane Eyre. Ceir teimlad o gymuned yn yr Adran Saesneg, a rwyf wrth fy modd yn rhan ohoni!”
Ethan Wall, Blwyddyn 12
CA4 (Blwyddyn 10-11)
Blwyddyn |
Tymor |
Themau |
Asesiadau |
B10 |
Hydref |
Shakespeare NEA
Uned 1 arholiad llenyddiaeth TGAU - OMAM a barddoniaeth
|
Traethawd
Arholiad allanol dechrau tymor y gwanwyn
|
|
Gwanwyn |
Cymharu dwy gerdd NEA
An Inspector Calls |
Traethawd
|
|
Haf |
Heroes
|
Arholiad allanol yn yr Haf |
Nod
Nod y cwrs yw caniatáu myfyrwyr i ddatblygu eu diddordebau llenyddol a’u hannog i fod yn ddarllenwyr brwd.
Manylion y Cwrs
Mae’r cwrs yn cyd-redeg gyda’r cwrs iaith. Arholir y cwrs ar ddwy haen, Uwch a Sylfaenol; graddau A* i D yn yr haen Uwch a C i G yn yr haen Sylfaenol.
Bydd myfyrwyr yn derbyn y cyfleoedd canlynol;
• Darllen, deall ac ymateb i ystod eang o ddarnau llenyddol, i werthfawrogi dulliau ysgrifennu awduron ac i ddatblygu eu sgiliau astudio llenyddiaeth.
• Bod yn ymwybodol o’r cyd-destunau celfyddydol, hanesyddol a chymdeithasol sy’n effeithio ar lenyddiaeth.
• Greu a chyfleu ystyr yn eu hysgrifennu a gwaith siarad a gwrando, ac i ddatblygu eu dealltwriaeth o gynulleidfa a phwrpas.
Bydd yr asesiad yn cynnwys 2 arholiad (75%) ac 2 asesiad dan arolygaeth (25%).
CA5 (Blwyddyn 12-13)
Anghenion Mynediad:
Disgwylir bod gennych radd B o leiaf yn Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg TGAU, yn ddelfrydol ar bapurau haenau uwch TGAU.
Beth yw Llenyddiaeth Saesneg?
Mae TAG UG a Safon Uwch CBAC mewn llenyddiaeth Saesneg yn annog dysgwyr i ddatblygu eu diddordeb mewn llenyddiaeth ac astudiaethau llenyddol.
Beth fyddaf yn dysgu o fewn Llenyddiaeth Saesneg?
Mae Safon Uwch Llenyddiaeth Saesneg wedi bod yn bwnc poblogaidd erioed. Mae hyn, heb amheuaeth, oherwydd natur y cwrs, sy’n cynnig cyfleoedd i astudio materion hanesyddol, diwylliannol a chymdeithasol trwy gyfrwng llenyddiaeth. Byddwch yn cael eich annog i ddatblygu fel darllenwyr hyderus, annibynnol ac ystyriol mewn ystod eang o weithiau llenyddol clasurol a chyfoes, yn ogystal ag ehangu eich gallu i gymharu testunau ac i ddatblygu gwerthfawrogiad o bwysigrwydd dylanwadau diwylliannol a hanesyddol ar ddarllenwyr ac awduron.
Cynnwys y cwrs:
Uned 1: Rhyddiaith cyn 1900 e.e. Jane Eyre (Bronte) a Drama e.e. A Streetcar Named Desire (Williams)
Uned 2: Barddoniaeth ar ôl 1900 e.e. Owen Sheers, Seamus Heaney
Uned 3: Barddoniaeth cyn 1900 e.e. Milton a cherddi heb eu hastudio o’r blaen
Uned 4: Shakespeare e.e. King Lear
Uned 5: Gwaith cwrs – darllen dau ddarn o ryddiaith o gyfnodau gwahanol e.e. The Great Gatsby, Atonement
Gyrfaoedd posib:
Mae’r pwnc yn sicr yn cydfynd gyda’r mwyafrif o bynciau eraill ac yn gymhwyster teilwng ar gyfer astudio ystod eang o gyrsiau coleg. Rhydd agoriad i yrfau amrywiol megis y Gyfraith a Newyddiaduriaeth.
Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:
https://www.wjec.co.uk/qualifications/english/r-english-literature-gce-from-2015/