Skip to content ↓

Diwrnod Cyntaf

Mae hwn yn ddiwrnod hynod o gyffrous i’ch plentyn ac i ni’r athrawon hefyd! Ar y diwrnod yma dim ond Blwyddyn 7 a 12 sydd yn yr adeilad, mae hyn yn rhoi cyfle i’ch plentyn ffeindio eu ffordd o amgylch a theimlo’n gartrefol cyn bod gweddill yr ysgol yn cyrraedd.  Bydd eich plentyn yn aros o fewn eu dosbarth cofrestru am ran fwyaf o’r diwrnod ac mae hyn yn gyfle gwych iddynt ddod i nabod ei athro cofrestru a gweddill y dosbarth yn dda.  Caiff y disgyblion hefyd daith o amgylch yr ysgol a chyfle i ymarfer symud o’r naill ddosbarth i’r llall cyn i’r tymor gychwyn.  Ein nod yw sicrhau bod pawb yn gyfforddus a hapus o’r dechrau.