Oherwydd COVID-19 mae'n debygol bydd newid trefniadau digwyddiadau allgyrsiol
Rydym yn lwcus iawn yn YGBM i gael disgyblion ymroddedig a dawnus sydd wedi cystadlu ar lefel uchel ac ennill cystadlaethau cenedlaethol a chynrychioli Cymru. Mae'r disgyblion hyn yn rhannu ei phrofiad gyda'r disgyblion sydd yn newydd i ddadlau. Mae dwy sesiwn ar gael; un i Gyfnod Allweddol 3 (Blwyddyn 7-9) a'r llall i Gyfnod Allweddol 4-5 (Blwyddyn 10-13).
Dyma peth o gyngor gan Huw i'r rhai sy'n dechrau dadlau:
“Mae'r profiad o ddadlau wedi bod yn un anhygoel i wella fy hunan hyder. Yn ogystal, mae siarad cyhoeddus wedi rhoi'r cyfle i mi wella fy sgiliau datrys problemau. Roeddwn i'n falch iawn i gynrychioli Bro Morgannwg a Chymru yn yr ESU, ac o gael cynrychioli'r ysgol yn gyson o fewn cystadlaethau.”
Morgan Bailey, Blwyddyn 13
Llwyddiannau
YGBM yw enillwyr Cymru am y Gystadleuaeth Dadlau Ysgolion Cymru 2019. Y tîm buddugol oedd; Huw Jones, Sara Jones a Rhys Griffiths. Cynhaliwyd y rownd derfynol yn Nhŷ Tredegar ac fe enillasant yn erbyn tîm o Cardiff Sixth Form.