Skip to content ↓

Oherwydd COVID-19 mae'n debygol bydd newid trefniadau digwyddiadau allgyrsiol

Mireiniwch eich sgiliau cyfathrebu yn y clwb dadlau!  Ydych chi yn hoffi trafod pynciau llosg? Oes gyda chi angerdd dros gael at wraidd materion?  Yna'r clwb dadlau yw'r lle i chi!  Daw rhai disgyblion i drafod amryw o bynciau yn anffurfiol gyda'i ffrindiau amser cinio, daw eraill er mwyn gwella ei sgiliau siarad cyhoeddus ac i ddysgu sut i ddadlau gan rai o'n chweched sydd gyda phrofiad helaeth.

Rydym yn lwcus iawn yn YGBM i gael disgyblion ymroddedig a dawnus sydd wedi cystadlu ar lefel uchel ac ennill cystadlaethau cenedlaethol a chynrychioli Cymru.  Mae'r disgyblion hyn yn rhannu ei phrofiad gyda'r disgyblion sydd yn newydd i ddadlau.  Mae dwy sesiwn ar gael; un i Gyfnod Allweddol 3 (Blwyddyn 7-9) a'r llall i Gyfnod Allweddol 4-5 (Blwyddyn 10-13).

Dyma peth o gyngor gan Huw i'r rhai sy'n dechrau dadlau:

 

You have not allowed cookies and this content may contain cookies.

If you would like to view this content please

 

“Mae'r profiad o ddadlau wedi bod yn un anhygoel i wella fy hunan hyder.  Yn ogystal, mae siarad cyhoeddus wedi rhoi'r cyfle i mi wella fy sgiliau datrys problemau. Roeddwn i'n falch iawn i gynrychioli Bro Morgannwg a Chymru yn yr ESU, ac o gael cynrychioli'r ysgol yn gyson o fewn cystadlaethau.”

Morgan Bailey, Blwyddyn 13

 

Llwyddiannau

YGBM yw enillwyr Cymru am y Gystadleuaeth Dadlau Ysgolion Cymru 2019.  Y tîm buddugol oedd; Huw Jones, Sara Jones a Rhys Griffiths.  Cynhaliwyd y rownd derfynol yn Nhŷ Tredegar ac fe enillasant yn erbyn tîm o Cardiff Sixth Form.