Skip to content ↓
Athro arweiniol: Gareth Jones
Trydar:@Ygbm_pontio

“DYRO DY LAW I MI AC FE AWN I BEN Y MYNYDD”

Drwy gydweithio ac ymddiried yn ein gilydd rydym am sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd i ben mynydd ei allu a’i dalentau. Gwnawn hynny drwy gynnig cyfle, cynhaliaeth ac arweiniad o fewn cymdeithas bositif, eangfrydig, diogel a gwâr.

Mae’r cam o’r ysgol gynradd i ysgol uwchradd yn gyfnod pwysig a chyffrous ym mywyd pob plentyn.  Drwy gydweithio ac ymddiried yn ein gilydd rydym am sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd i ben mynydd ei allu a’i dalentau.  Gwnawn hynny drwy gynnig cyfle, cynhaliaeth ac arweiniad o fewn cymdeithas bositif, eangfrydig, diogel a gwâr.

Cwricwlwm

Yn Ysgol Bro Morgannwg mae’r cwricwlwm cyffrous yn ein galluogi i sicrhau bod pob disgybl yn cyflawni eu cyrhaeddiad a’i uchelgais.  Fel ysgol rydym yn chwarae rôl flaengar yn datblygu'r Cwricwlwm i Gymru drwy hyrwyddo dulliau newydd ac uchelgeisiol o ddysgu ac addysgu i ysbrydoli ein disgyblion.  Caiff pob gwers ei dysgu gan arbenigwr yn y pwnc i’r safonau uchaf a cheisiwn gydio yn nychymyg ein disgyblion gan eu harfogi gyda’r sgiliau a’r angerdd i fod yn ddysgwyr annibynnol, llwyddiannus.

Cyfleusterau

Mae ein cyfleusterau cyfoes yn ysbrydoli ac yn ennyn chwilfrydedd ein disgyblion wrth iddynt ddysgu sgiliau newydd.  Mae’r datblygiadau diweddaraf yn cynnwys cae 3G gyda llif oleuadau, labordai Gwyddoniaeth ac adran Dechnoleg newydd.  Credwn fod yr amgylchedd y mae'r disgyblion yn dysgu ynddo yn hanfodol ar gyfer hwyluso eu datblygiad personol felly mae angen iddo fod yn bwrpasol ac apelgar.

Gweithgareddau All-gwricwlaidd

Testun balchder i ni yw'r ystod eang o glybiau, digwyddiadau, cystadlaethau a gweithgareddau sydd ar gael i bawb ddatblygu eu doniau.  Mae'r rhain yn amrywio o gorau i bêl-droed; dadlau i gemau bwrdd – mae croeso mawr i bawb hyd yn oed os nad ydynt wedi trio'r gweithgaredd o’r blaen.  Mae Blwyddyn 7 yn gyfle gwych i’ch plentyn ymuno â chlybiau gwahanol a dysgu sgiliau newydd yn ogystal â gwneud ffrindiau mewn amgylchedd difyr.  Mae rhai clybiau yn digwydd yn ystod yr awr ginio ac eraill yn cymryd lle ar ôl amser ysgol.  Am amserlen llawn edrychwch ar y dudalen weithgareddau all-gwricwlaidd.

Dosbarthiadau

Bydd gan eich plentyn ddau ddosbarth ym Mlwyddyn 7: dosbarth cofrestru a dosbarth dysgu. Mae eich plentyn eisoes wedi nodi enw un neu ddau ffrind hoffent fod gydag ym Mlwyddyn 7 a’r gobaith yw y gallan nhw fod mewn dosbarth gyda ffrind o’i dewis.  Ein bwriad yw i’ch plentyn deimlo’n gyfforddus ac yn hapus ar ddechrau’r flwyddyn.

Mae’r dosbarth cofrestru yn cwrdd pob bore a bydd gan eich plentyn diwtor personol.  Bwriad y sesiynau hyn yw cynnig cefnogaeth fugeiliol a lles i’ch plentyn. Y tiwtor bydd y person mwyaf pwysig i’r plentyn ar hyd eu hamser yn YGBM, a byddan nhw yn y dosbarth yma o flwyddyn 7-11.

Mae’r dosbarthiadau dysgu mewn grwpiau cymysg – bwriad Blwyddyn 7 yw i ddod i adnabod ffrindiau newydd ac ymgartrefu.  Bydd y broses o setio neu bandio mewn rhai pynciau yn digwydd yn hwyrach yn y flwyddyn neu ar ddechrau Blwyddyn 8. Y cwbl sydd angen i’ch plentyn boeni amdano yw ymgartrefu yn y pynciau a gwneud ffrindiau newydd!

Gwisg Ysgol

Rydym yn defnyddio YC Sports, Canton fel cyflenwyr ein gwisg ysgol.  Mae’n bosib prynu'r wisg oddi ar wefan YC Sports hefyd. Mae’r wisg ysgol fel y canlynol: esgidiau du lledr, trowsus/sgert nefi, crys polo, siwmper neu gardigan a chot ysgol.  Yn Addysg Gorfforol mae angen crys t polo, crys rygbi, siorts a sanau glas rygbi.  Cewch fwy o wybodaeth yn y cyfeiriadur rhieni isod.

Bwyd

Mae ffreutur a chaffi ym Mro Morgannwg a digon o gyfle i brynu bwyd yn ystod amser egwyl a chinio. Amser egwyl mae cyfle i brynu rhywbeth bach fel ffrwythau neu fyrbryd twym, diod boeth neu ddŵr.  Amser cinio mae’r caffi yn cynnig, brechdanau, baguettes a salad tra bod sawl opsiwn o bryd cynnes ar gael yn y ffreutur.  Mae modd dod â brechdanau o gartref i’w bwyta yn y ffreutur gyda ffrindiau.

Mae disgyblion yn derbyn tag cinio ar ddechrau’r flwyddyn sy’n caniatáu i’r disgybl brynu bwyd.  Does dim modd prynu bwyd gan ddefnyddio arian yn y ffreutur na’r caffi, mae rhaid rhoi arian ar y tag trwy’r wefan ‘ParentPay’. Mae hefyd peirannau yn y ffreutur ble mae modd mewnbynnu arian i’w ddefnyddio ar y tag cinio.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i’r ysgol os oes problem ddietegol gan eich plentyn er mwyn i’r ffreutur arlwyo ar ei gyfer/chyfer.

Diwrnod Cyntaf

Mae hwn yn ddiwrnod hynod o gyffrous i’ch plentyn ac i ni’r athrawon hefyd! Ar y diwrnod yma dim ond Blwyddyn 7 a 12 sydd yn yr adeilad, mae hyn yn rhoi cyfle i’ch plentyn ffeindio eu ffordd o amgylch a theimlo’n gartrefol cyn bod gweddill yr ysgol yn cyrraedd.  Bydd eich plentyn yn aros o fewn eu dosbarth cofrestru am ran fwyaf o’r diwrnod ac mae hyn yn gyfle gwych iddynt ddod i adnabod yr athro cofrestru a gweddill y dosbarth yn dda.  Caiff y disgyblion hefyd daith o amgylch yr ysgol a chyfle i ymarfer symud o’r naill ddosbarth i’r llall cyn i’r tymor gychwyn.  Ein nod yw sicrhau bod pawb yn gyfforddus a hapus o’r dechrau.

Cysylltu gyda’r Ysgol

Mae sawl ffordd wahanol o gysylltu gyda’r ysgol ac i’r ysgol gysylltu gyda rhieni. Credwn fod y cyfathrebu a’r cydweithio yma yn hanfodol ar gyfer llwyddiant eich plentyn yn yr ysgol.

Yn gyntaf, mae dyddiadur gwaith cartref eich plentyn yn ffordd bwysig i gadw cyswllt.  Gellir athrawon ysgrifennu nodiadau i’r rhieni a gall rhieni ysgrifennu nodyn i athrawon, gofyn cwestiynau a gosod nodiadau yn y dyddiadur hefyd.  Mae’r tiwtor personol yn edrych ar y dyddiadur yn ddyddiol er mwyn gallu helpu ateb unrhyw gwestiynau sy’n codi.

Yn ail, os oes achos sydd yn peri mwy o bryder yna mae’n bosib e-bostio'r ysgol ar yr e-bost cyffredinol a chaiff hyn ei basio ymlaen i’r athro priodol.

Yn drydydd, os oes achos difrifol neu argyfwng yna gallwch ffonio’r ysgol a phan yn bosib bydd modd siarad gyda’r tiwtor dosbarth neu’r pennaeth blwyddyn.  Gofynnwn i chi gymeryd i mewn i ystyriaeth ein bod yn dysgu dosbarthiadau yn ystod y dydd ac felly gall bod yn anodd siarad gyda rhywun ar unwaith. Er hyn byddwn yn cysylltu gyda chi cyn gynted â phosib.

Ffordd arall gyfleus i gadw cyswllt yw trwy'r ap ‘Edulink’. Gallwch lawrlwytho hwn ar eich ffôn a gweld negeseuon a diweddariadau gan yr ysgol am gynnydd eich plentyn.

Cefnogaeth

Gall Flwyddyn 7 fod yn anodd i bawb ac mae rhai disgyblion angen cymorth ychwanegol.  Mae gan yr ysgol ystod eang o ffyrdd ble cynigir y gefnogaeth hon. Yn gyntaf, cofiwch mai'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer eich plentyn yw’r athro cofrestru/tiwtor dosbarth sydd ar gael ac yn barod i drafod unrhyw beth o waith cartref i eiddo coll.  Mae gan y tiwtor dosbarth amser penodol wedi ei glustnodi er mwyn cynnig sesiwn fentora; cyfle i eistedd, sgwrsio a gwrando ar y disgyblion mewn grwpiau bach.  Mae’r pennaeth blwyddyn hefyd ar gael i drafod unrhyw faterion sy’n achosi gofid.

Ffordd arall ble gellir disgyblion gael cymorth yw trwy’r adran Lles.  Mae amrywiaeth o glybiau, sesiynau ELSA a sgyrsiau un-i-un ble gall eich plentyn siarad gydag aelod proffesiynol o’r adran am eu gofidion a phryderon. Ceir fwy o wybodaeth ar dudalen yr adran Lles.

Mae gennym hefyd yr adran Cynnal Dysgu sydd ar gael i’ch plentyn pe baent yn ffeindio rhai o’r sgiliau craidd megis Saesneg a Maths yn anodd ac angen ychydig o gymorth ychwanegol.  Er enghraifft, mae Menter Maths pob bore gydag aelodau o’r Chweched sy’n helpu rhai o’r disgyblion ieuengaf i ddatrys problemau mathemategol.  Gellir cael mwy o wybodaeth ar y dudalen Cynnal Dysgu.

Mae’r Chweched hefyd yn hwyluso a darparu nifer o weithgareddau eraill i Flwyddyn 7 ac ar gael am gymorth os oes angen.  Mae Blwyddyn 10 hefyd yn ymuno i ddarllen yn unigol gyda Blwyddyn 7 yn ystod rhai boreau adeg cofrestru.  Credwn fod y rhain yn gyfleoedd euraidd i Flwyddyn 7 gael y cyfle i gymdeithasu a dod i adnabod rhai o aelodau hŷn yr ysgol a bod hyn yn ychwanegu at ethos teuluol yr ysgol.  Hyderwn y bydd hyn hefyd yn gymorth i Flwyddyn 7 wrth iddynt ymgartrefu gan eu bod yn gwybod bod ganddynt ‘buddy’ hŷn yn yr ysgol a fyddai’n barod i gynnig gair o gyngor ac ychydig o gysur ar eu taith.

 

You have not allowed cookies and this content may contain cookies.

If you would like to view this content please