Skip to content ↓
Mae dychwelyd i’r ysgol i astudio yn y Chweched Dosbarth yn wirfoddol. Mae bod yn aelod o’r Chweched Dosbarth yn fraint. Rhaid felly cadw at reolau’r ysgol fel pob myfyriwr arall ac arwain drwy esiampl.

Rhaid i bob aelod o’r Chweched roi esiampl i weddill yr ysgol yn nhermau :

  • Ymddygiad
  • Gwisg ysgol (gweler y polisi ar wisg ysgol)
  • Agwedd at waith
  • Meithrin ymwybyddiaeth o werthoedd cymunedol

1. Rhaid i bob myfyriwr ddefnyddio’r iaith Gymraeg fel cyfrwng cyfathrebu.

2. Mae’r ysgol yn mynnu presenoldeb cyson. Rhaid bod yn bresennol bob dydd, drwy’r dydd hyd yn oed os nad oes gan y disgybl amserlen llawn. Mae hawl gan fyfyrwyr i adael y safle amser cinio yn unig. Rhaid llofnodi mewn a mas yn y dderbynfa.

3. Os bydd absenoldeb oherwydd salwch rhaid rhoi gwybod i’r ysgol (galwad ffôn) cyn 8.40am.

4.Rhaid i bob myfyriwr mynychu cyfnod cofrestru am 8.30 am. Ni oddefir cyrraedd yr ysgol yn hwyr. Rhaid i bob myfyriwr gofrestru gyda’r tiwtoriaid yn y bore. Os bydd myfyriwr yn absennol bydd neges destun yn cael ei ddanfon i’r cartref.

5. Os bydd presenoldeb myfyriwr yn llai na 88% mae gan yr ysgol yr hawl i ail-ystyried addasrwydd y myfyriwr yna ar gyfer y Chweched Dosbarth. Mae’r ysgol yn ystyried ei fod yn amhosib i fyfyrwyr gael mynediad llawn i’r cwricwlwm os nad yw presenoldeb yn uwch na 88%.

6. Mae gan yr ysgol yr hawl i wrthod cofrestru myfyrwr ar gyfer arholiadau allanol os nad yw’r disgybl yna wedi mynychu gwersi digonol.

7. Ni roir caniatâd i aelodau o’r Chweched Dosbarth fod yn absennol o’r ysgol i fynychu gwersi gyrru nag i ddilyn materion personol eraill tebyg. Bydd absenoldeb tebyg yn cael ei ystyried fel absenoldeb heb ganiatâd.

9. Disgwylir i bob myfyriwr fod yn brydlon i’r gwersi.

10. Rhaid defnyddio’r cyfnodau astudio yn synhwyrol. Mae’r gwersi yn cael eu clustnodi oherwydd y llwyth gwaith o fewn y cyrsiau yn y Chweched. Rhaid defnyddio’r amser yn gall i wneud gwaith cwrs, cyflwyniadau neu baratoi ar gyfer arholiadau a modylau. Yn ystod y gwersi hyn dylai’r myfyrwyr fod yn gweithio yn ystafelloedd astudio'r Chweched ac yn parchu hawliau eraill i weithio’n galed.

11. Caniateir i fyfyrwyr ddefnyddio Ffreutur/Caffi yn ystod cyfnodau astudio i ymlacio ar yr amod fod yr ystafell a’r dodrefn yn cael eu parchu. Disgwylir ymddygiad aeddfed gan aelodau’r Chweched bob amser.

12. Bydd angen cydymffurfio gyda’r cytundeb yma a sicrhau canlyniadau academaidd boddhaol ym mlwyddyn 12 i barhau i flwyddyn 13.

13. Nid yw’n bolisi Ysgol i ganiatáu disgyblion i ddychwelyd i’r flwyddyn flaenorol. Bydd unrhyw gais i wneud hyn yn cael ei drafod gan yr UDA a UPB CA5 ar ôl ystyried y cais yn llawn.