Skip to content ↓

Canlyniadau Lefel A 2020

Disgyblion Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn llwyddo i gynnal safonau uchel yn eu harholiadau Safon Uwch eleni eto.

Mae disgyblion, rhieni, athrawon a Llywodraethwyr yn dathlu canlyniadau Safon Uwch ardderchog yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg eleni gyda 100% o ddisgyblion yn sicrhau 2 neu fwy o gymwysterau Safon Uwch A*-E. Llwyddodd 93.6% o ddisgyblion i sicrhau 3 neu fwy A*-E tra llwyddodd 76.36% o’r flwyddyn i sicrhau 3 neu fwy A*-C. (gwelliant o 8 pwynt canran ers 2019) Roedd 25.45% o holl raddau’r disgyblion yn raddau A*-A ac eto yn welliant o 4 pwynt canran ar 2019. Yn sgil Covid-19 seiliwyd y canlyniadau ar asesiadau athrawon mewn trefn o ddilysrwydd, canlyniadau arholiadau AS 2019, data mewnol, perfformiad hanesyddol yr ysgol ac maent yn cynnwys yr addasiadau a gyhoeddwyd yn hwyr ar 12/08/2020 gan y Senedd . Safonwyd y graddau gan fyrddau arholiad a Chymwysterau Cymru.

Hoffai’r ysgol longyfarch, yn benodol, rhai disgyblion sydd wedi llwyddo cyrraedd y lefelau uchaf. Llwyddodd tri disgybl i sicrhau lle ym mhrifysgolion Rhydgrawnt– bydd Twm Aled (4 A*) yn astudio Saesneg ym Mhrifysgol Caergrawnt, Elly Greening (4 A*) yn astudio Bioleg ym Mhrifysgol Rhydychen a Huw Jones (2A* a 2A) yn astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen. Bydd Lowri Owen yn astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Lerpwl wedi sicrhau 4 A* ac fe sicrhaodd Ceri Vaughan Jones 4 A* hefyd. Fe gafodd Begw Rowlands 2A*, 1 Anrhydedd* ac 1 gradd A tra bydd Iestyn Miller yn astudio Peirianneg Gemegol gyda 2 A*, 1A ac 1B. Fe lwyddodd Ellie Huxter a Dafydd Coleman i sicrhau 2A*, 1A ac 1B; ac Indeg Evans i sicrhau 1A* a 3A. Enillodd Ani Davies 1 Anrhydedd* a 3A ac fe lwyddodd Aled Reardon-James i sicrhau 1 A* a 2 radd A.

Er gwaethaf y rhwystr i gwblhau eu harholiadau allanol mae’r graddau a ddyfarnwyd yn adlewyrchu ymroddiad, ethig gwaith a datblygiad academaidd y disgyblion o dan amodau anodd a heriol iawn iddynt. Rydym fel ysgol yn hynod falch o’r disgyblion a dymunwn bob dymuniad da iddynt ar gyfer y dyfodol.

Llongyfarchiadau gwresog i bawb!

Yn ôl y Pennaeth Hywel Price; “Unwaith eto, er gwaethaf yr anawsterau ac ansicrwydd mae myfyrwyr Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi rhagori gan gynnal hanes hir academaidd yn Lefel/Safon A. Ymfalchiwn yn eu llwyddiannau a dymunwn pob dymuniad da i bob un wrth symud ymlaen i addysg uwch neu i fyd gwaith a hyfforddiant”

.

 

Llongyfarchiadau i'n disgyblion sy'n gadael am Rydychen a Chaergrawnt.

(Ch-D) Elly Greening a fudd yn astudio Bioleg yn Rhydychen, Huw Jones a fudd yn ymuno a hi yn Rhydychen i astudio Daearyddiaeth a Twm Aled sydd yn mynd i astudio Saesneg yng Nghaergrawnt. 

 

Canlyniadau Lefel A 2019

Mae disgyblion, rhieni, athrawon a Llywodraethwyr yn dathlu canlyniadau Safon Uwch ardderchog yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg eleni gyda 100% o ddisgyblion yn sicrhau 2 neu fwy o gymwysterau Safon Uwch A*-E.  Llwyddodd 100% o ddisgyblion i sicrhau 3 neu fwy A*-E tra llwyddodd 68.3% o’r flwyddyn i sicrhau 3 neu fwy  A*-C.  Roedd 21.4% o holl raddau y disgyblion yn raddau A*-A. Sicrhaodd y Fagloriaeth Gymraeg bod 85.4% o ddisgyblion yn sicrhau gradd A*-C gyda 41.5% yn raddau A*-A.

Hoffai’r ysgol longyfarch, yn benodol, rhai disgyblion sydd wedi llwyddo cyrraedd y lefelau uchaf. Bydd Jack Tweddle, a sicrhaoedd 5A*, yn mynd i Gaerfaddon i astudio Ffiseg ac Astroffiseg. Wedi iddo lwyddo cael 4A* ac 1A, bydd Joseff Nicholas yn mynychu Prifysgol Warwick i astudio Mathemateg, tra bydd Robbie Thomas, a sicrhaodd 4 A* ac 1 A yn edrych ymlaen at fynd i Brifysgol Bryste i astudio Mathemateg hefyd. Rydym yn parhau gyda’r traddodiad o addysgu meddygon y dyfodol, gyda Iestyn Fenn, a sicrhaodd 2A* a 2A, yn astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ymfalchiwn hefyd yn yr amrywiaeth o bynciau bydd ein disgyblion yn astudio yn yr Hydref. Bydd Tom Lowrie yn astudio Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Loughborough, tra bydd Elin Jones yn astudio’r Gyfraith yng Nghaerdydd. Mae Aled Misra wedi derbyn lle yng Nghaerwysg i astudio Ffiseg ac Astroffiseg. Bydd Esyllt Evans, sydd yn ieithydd angerddol, yn parhau i astudio Ieithoedd Modern yng Ngaerfaddon ac rydym yn falch iawn bod Leah Griffiths yn gallu gwireddu ei breuddwyd i astudio nyrsio. Rydym yn falch iawn o bob un o’n disgyblion ac yn dymuno pob dymuniad da iddynt yn y dyfodol. Llongyfarchiadau gwresog i bawb!

 “Unwaith eto, mae myfyrwyr Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi rhagori gan gynnal hanes hir academaidd yn Lefel/Safon A. Ymfalchiwn yn eu llwyddiannau a dymunwn pob dymuniad da i bob un wrth symud ymlaen i addysg uwch.”   Hywel Price

Mr Price gyda rhai disgyblion yn casglu eu canlyniadau Lefel A