Skip to content ↓

Croeso i dudalen Blwyddyn 10.

Rydych yn dechrau ar gyfnod hynod o bwysig a chyffrous yn eich bywydau. Yr ydych nawr yn symud ymlaen o gyfnod allweddol 3 i astudio eich pynciau TGAU.  

Mae’r ddwy flynedd nesaf yn mynd i fod yn rhai hynod o brysur, hwylus ac ychydig yn heriol. Mi fydd y mwyafrif ohonoch fwy na thebyg yn eistedd eich arholiadau TGAU cyntaf yn ystod y flwyddyn yma. Mae hyn yn swnio’n ofnus ond peidiwch â phoeni, mi fyddai i, eich tiwtoriaid a’ch athrawon yma i’ch helpu'r holl ffordd.

Yn sicr mi fydd eich datblygiad academaidd yn bwysig ond rhaid cofio am eich datblygiad personol hefyd. Dros y ddwy flynedd nesaf mi fyddwch yn parhau i aeddfedu i fod yn ddisgyblion cwrtais, cyfeillgar sy’n dangos balchder at eich Cymreictod. Mae disgyblion Blwyddyn 10 yn ddisgyblion pwysig iawn i ni fel ysgol gan fod y disgyblion iau yma yn edrych i fyny atoch fel modelu rôl. Mae eich ymddygiad cyffredinol yn yr ysgol yn dylanwadu yn enfawr ar ein disgyblion iau. Yn sicr mi fydd dal yna gyfleoedd di-ri i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol dros y flwyddyn.

Mwynhewch y flwyddyn!

 

Mr Owain Rowlands

Pennaeth Blwyddyn 10

Gweler y pdf isod ar gyfer y wybodaeth ynglŷn â taith Glanllyn 2021.