Skip to content ↓
CA4 (BLwyddyn 10-11)
Arweinydd Pwnc:

Mrs Sian Williams

 I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk

Amcanion:

Dyma’r dewis i chi os oes gennych chi ddiddordeb mewn paratoi, cyflwyno a gweini bwyd i safon uchel. Yn ogystal ag ymestyn eich gallu mewn Technoleg Bwyd fe ddysgwch am bob agwedd o’r Diwydiant Arlwyo a Lletygarwch fel diet, maetheg, hylendid a swyddi o fewn y diwydiant.

Mae’r wobr CBAC Lefel 1/2 mewn Lletygarwch ac Arlwyo wedi ei gynllunio i gefnogi dysgwyr

mewn ysgolion a cholegau sydd eisiau dysgu am y sector galwedigaethol a’r posibilrwydd y gall ei gynnig iddynt ar gyfer eu gyrfaoedd neu astudiaeth bellach. Mae’n fwyaf addas fel sylfaen ar gyfer astudiaeth bellach. Byddai hyn yn rhoi i ddysgwyr y cyfle i ddatblygu ystod o sgiliau arbenigol a chyffredinol a fyddai’n cefnogi eu dilyniant i gyflogaeth. Gall y cwrs gynnig cyflogaeth mewn meysydd lletygarwch ac arlwyo. Mae hyn yn amrywio o staff gweini, derbynyddion a chynorthwywyr arlwyo i gogyddion, rheolwyr gwestai a bar a thechnolegwyr bwyd sy’n gweithio i gadwyni archfarchnadoedd. Mae pob un o’r rolau hyn yn gofyn am addysg bellach a hyfforddiant naill ai drwy brentisiaethau neu addysg bellach ac uwch.

 

Manylion y Cwrs

Rhennir cynnwys y cwrs yn ddau faes gorfodol o astudiaeth:

 

Uned 1 - Y Diwydiant Lletygarwch ac Arlwyo – Bwyd a Diod

• Rolau swydd, cyfleoedd gwaith a hyfforddiant perthnasol

• Iechyd, diogelwch a hylendid

• Cyfathrebu a chadw cofnod

• Ystyriaethau amgylcheddol

Uned 2 - Y diwydiant Lletygarwch ac Arlwyo ar waith:

Sgiliau arlwyo a choginio ymarferol sy’n gysylltiedig â pharatoi a gweini bwyd.

 

Asesu

i. Papur theori ar lein 90 munud o hyd, i’w sefyll ar ddiwedd y cwrs (40% o’r marciau). Fe fydd y papur yn cynnwys yr holl wybodaeth o Uned 1 a 2.

ii. Asesiad o waith ymarferol o dan reolaeth (60% o’r marciau)