All-Gwricwlaidd - Uwchradd
Gweithgareddau Allgwricwlaidd
Oherwydd COVID-19 mae'n debygol bydd newid trefniadau digwyddiadau allgyrsiol
Mae gweddau cymdeithasol yr ysgol yn bwysig am sawl rheswm
- Yn bennaf i gynnig cyfle i ddisgyblion ‘fyw’r Gymraeg’ a gloywi iaith wrth ei defnyddio mewn sefyllfaoedd amrywiol.
- Er mwyn datblygu holl agweddau cymeriad a phersonoliaeth y disgybl wrth gynnig profiadau a hybu sgiliau cymdeithasol y tu hwnt i bedair wal y dosbarth.
- Er mwyn rhoi cyfle i blant gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau yn gyhoeddus neu yn gystadleuol (e.e. chwaraeon, cyngherddau, dramâu a.y.y.b)
- Er mwyn dod yn rhan o ddiwylliant a thraddodiadau Cymru wrth gymryd rhan mewn Eisteddfodau ac achlysuron lleol a chenedlaethol eraill.
Trefnir nifer o weithgareddau amrywiol tu hwnt i oriau gwersi yn ystod amser cinio ac ar ôl ysgol. Cynigir cyfle i bawb ymwneud â’r rhain. Mae’n ffaith mai po fwyaf o amser y treulia plentyn yn siarad Cymraeg, y gorau y bydd ei f/meistrolaeth o’r iaith.
Rhai o'r clybiau, cystadleuthau a gweithgareddau ar gael yw:
Perfformio
- Côr SATB
- Côr bechgyn (iau)
- Côr bechgyn (hŷn)
- Côr merched (iau)
- Côr merched (hŷn)
- Côr 7, 8 a 9
- Ensemble Lleisiol
- Deuawdau
- Unawdau
- Clwb Drama
- Clwb Ukulele
Diddordebau a Hobiau
- Clwb Gwaith Cartref
- Clwb Celf
- Clwb Coginio
- CogUrdd
- Dug Caeredin
- Arfordira (Daearyddiaeth)
- FirstGive
Chwaraeon
- Clwb Gymnasteg
- Pêl-osgoi
- Pêldroed
- Hoci
- Pêlrwyd
- Pêl fasged
- Rygbi
- Clwb Ffitrwydd Merched
- 5-yr-ochr
- Tenis Bwrdd
- Pêl-mainc
- Athletau
- Traws Gwlad
- Rygbi 7-yr-ochr
- Tenis
- Criced
Llythrennedd a Chyfathrebu
- Clwb Iaith Arwyddo
- Clwb Ffrangeg
- Clwb Dadlau
- Clwb Darllen
- Clwb Darllen Bechgyn
- Triban
- Adrodiad Newyddion BBC
- Siarad Cyhoeddus
- Râs Ddarllen
Datrys Problemau
- Clwb gemau bwrdd
- Clwb Codio
- Clwb Roboteg Lego
- Her Mathemateg
- Cystadleuaeth Mathemateg Prifysgol Bangor
Gwyddoniaeth
- Clwb Gwyddoniaeth
- Clwb STEM
- Gweithdy DNA
- Gwyddoniaeth mewn Iechyd (live)
- Her Gwyddorau Bywyd
- Her tîm Peiriannwyr
- Top of the Bench Royal Society of Chemistry
- Her Faraday