Skip to content ↓
CA4 (Blwyddyn 10-11)
Athro Arweiniol - Mr Matthew Davies
I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk

Nod

Mae’r diwydiant adeiladu yn cyflogi dros 3 miliwn o bobl yn y DU ac yn cynnig ystod amrywiol o gyfleoedd cyflogaeth. Mae gyrfaoedd ar gael ym mhob rhan o’r broses adeiladu gan gynnwys syniadau a dyluniadau cychwynnol, adeiladu a’r cynllunio a chynnal strwythurau sy’n digwydd.

 

Mae’r cwrs galwedigaethol hwn wedi’i ddylunio i gefnogi dysgwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth o’r diwydiant adeiladu. Mae’n darparu dysgwyr â chyflwyniad eang i fasnach gwahanol sy’n rhan o’r sector a’r mathau o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael.

 

Mae’n arbennig o addas yn fel sail i astudiaeth bellach. Gallai’r astudiaeth bellach hwn ddarparu dysgwyr ag ymwybyddiaeth o waith mathau gwahanol o swyddi yn y sector fel plymwyr, seiri a theilsio. O ganlyniad, efallai yr hoffent ddechrau ar brentisiaeth neu barhau â’u hastudiaethau i addysg uwch er mwyn mynd ymlaen i’r swyddi hynny.

Gallai cyflawni’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus ddarparu’r dysgwr â chyfleoedd i gael mynediad at ystod o gymwysterau gan gynnwys:

• Prentisiaethau mewn adeiladu

• Cymwysterau Lefel 2 mewn meysydd arbenigol fel plymio, gosod brics a gwaith saer

• Cymwysterau Lefel 3 mewn adeiladu, fel Diplomas mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig

 

Cydnabyddir y cwrs gan y BHDA (Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu) sy’n datgan:

“Mae’n bleser i’r BHDA weithio gyda CBAC i ddatblygu’r Cymhwyster Adeiladu lefel 1/2 wedi’u seilio ar gynnwys a gymeradwyd gan y diwydiant fydd yn darparu’r cyfle i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc i ystyried Adeiladu fel gyrfa”

 

Manylion y Cwrs

Mae’r cwrs yn cynnwys 120 oriau dysgu dan arweiniad:

 

1. Diogelwch ym maes adeiladu (30 awr)

Drwy’r uned hon, bydd dysgwyr yn meithrin y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i allu cynllunio sut i leihau’r risg i’w hiechyd a’u diogelwch eu hunain ac iechyd a diogelwch eraill mewn cyd-destunau gwahanol.

 

2. Sgiliau adeiladu ymarferol (60 awr)

Ffocws yr uned hon fydd datblygu 3 sgìl adeiladu penodol er enghraifft; gwaith saer, plymio a theilsio. Fe fydd dysgwyr hefyd yn dysgu i ddehongli’r wybodaeth dechnegol er mwyn cynllunio’r gwaith o adnewyddu adeilad, gan ystyried materion iechyd a diogelwch. Byddant yn defnyddio sgiliau a thechnegau priodol er mwyn gwneud y gwaith adnewyddu.

 

3. Cynllunio projectau adeiladu (30 awr)

Bydd dysgwyr yn defnyddio’r hyn a ddysgwyd wrth feithrin sgiliau ymarferol a gofynion iechyd a diogelwch prosesau adeiladu ac yn meithrin y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i gynllunio prosiectau datblygu amgylchedd adeiledig syml.