Skip to content ↓
Mae’r cwrs heriol hon yn annog ein disgyblion i ystyried cwestiynau moesol a chrefyddol perthnasol i’w bywydau pob dydd. Mae themâu yn ceisio ennyn empathi yn ein disgyblion wrth iddynt ymgodymu gyda chymhlethdodau annhegwch byd-eang a chwestiynau moesol sy’n mynnu atebion.
Adran:

Miss R Davies - Pennaeth Adran

Mrs R Bordie- Davies

 I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk

“Wrth astudio Athroniaeth, Moeseg a Bwdhaeth fel lefel A rydw i wedi ehangu fy nealltwriaeth ynglŷn â syniadau amrywiol sy’n ceisio esbonio realiti bywyd yn drylwyr. Roedd cynnal trafodaethau dwys ymysg cyd-ddisgyblion dros y pynciau dan sylw wedi magu diddordeb angerddol mewn athroniaeth a moeseg sydd wedi fy nghynorthwyo i ddatblygu hyder wrth fynegi barn bersonol. Credaf fod astudio’r pwnc fel lefel A wedi ysgogi fi i ddewis dilyn athroniaeth yn y brifysgol, gan fod y cyrsiau lefel A wedi fy ngalluogi i i feithrin goddefgarwch tuag at syniadau a safbwyntiau gwahanol am realiti. Felly dydw i ddim yn gallu aros i astudio’r syniadau yma ym mhellach yn y Brifysgol”

Tom Pugh

CA3 (Blwyddyn 7-9)

Am fwy o wybdaeth am waith Blwyddyn 7  gwelwch ‘Dyniaethau’

 

Blwyddyn

Tymor

Themau

7

Hydref

Dyniaethau - Mae pobl yn gweld pethau mewn gwahanol ffyrdd!

 

Gwanwyn

Dyniaethau  Llyfrau Sanctaidd

 

Haf

Dyniaethau  - Fy Myd

8

Hydref

Taith bywyd y Cristion a Hindw

 

Gwanwyn

 Iddewiaeth

 

Haf

Islam

9

Hydref

Gwrthdaro a chrefydd- Cristnogaeth ac Islam

 

Gwanwyn

Dioddefaint- Cristnogaeth a Bwdhaeth

 

Haf

 Holocost a sefyllfaoed hil laddiad mwy diweddar.

 

 

CA4 (Blwyddyn 10-11)

Ym mlwyddyn 10 astudir yr uned ‘Crefydd a Themau Athronyddol’ ac ym mlwyddyn 11 bydd y disgyblion yn astudio’r uned ‘Crefydd a Themau Moesegol’. Mae TGAU CBAC mewn Astudiaethau Crefyddol yn defnyddio dull seiliedig ar faterion nodedig o astudio astudiaethau crefyddol, athronyddol a moesegol yn y byd modern.

Mae’n rhoi cyfle i ddysgwyr ddeall mwy am y byd, yr heriau crefyddol sy’n ei wynebu a’u lle yn y byd hwnnw. Bydd dilyn y cwrs TGAU hwn yn atgyfnerthu dealltwriaeth o grefyddau a’u heffeithiau ar gymdeithas. Bydd yn datblygu cymhwysedd dysgwyr mewn perthynas ag ystod eang o sgiliau ac ymagweddau ac yn galluogi pobl ifanc i fod yn grefyddol wybodus ac ystyriol, ac yn ddinasyddion sydd wedi’u hymgysylltu.

 

Amcanion Cyffredinol

Gwelir TGAU mewn Astudiaethau Crefyddol fel sylfaen ardderchog i unigolion sy’n ystyried gyrfa mewn Newyddiaduraeth, Y Gyfraith, Addysg, Meddygaeth gan gynnwys Meysydd Gofal eraill yn ogystal â gwaith yn y Gwasanaeth Sifil.

Mae’r cwrs yn darparu cyfle i fyfyrwyr:

• datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o grefyddau a chredoau anghrefyddol, megis anffyddiaeth a dyneiddiaeth

• datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o gredoau crefyddol, dysgeidiaethau, arferion a ffynonellau doethineb ac awdurdod, yn cynnwys drwy ddarllen testunau crefyddol allweddol, testunau eraill, ac ysgrythurau’r crefyddau maent yn eu hastudio

• datblygu gallu’r dysgwyr i lunio dadleuon cytbwys, strwythuredig sydd wedi eu dadlau’n dda ac sy’n seiliedig ar wybodaeth dda, gan ddangos dealltwriaeth fanwl ac eang o’r pwnc

• darparu cyfleoedd i ddysgwyr ymgysylltu â chwestiynau mewn perthynas â chred, gwerth, ystyr, pwrpas, gwirionedd, a’u dylanwad ar fywyd dynol

• herio dysgwyr i fyfyrio ar eu gwerthoedd, credoau a’u hagweddau eu hunain a’u datblygu yn sgil yr hyn maent wedi ei ddysgu, gan gyfrannu at eu paratoad ar gyfer bywyd fel oedolion mewn cymdeithas amlblwyfol a chymuned fyd-eang

 

Uned 1 – Rhan A

Uned 2 – Rhan A

Creadoau ac arferion Cristnogol ac Islamaidd

Rhan B – Cysyniadau Allweddol

Rhan B – Cysyniadau Allweddol

Bywyd a Marwolaeth

Daioni a Drygioni

Perthnasoedd

Hawliau Dynol

Bywyd ar ôl marwolaeth

Daioni/drygioni

Godineb

Sensoriaeth

Cyfrifoldeb amgylcheddol

Maddeuant

Ysgariad

Gwahaniaethu

Ewthanasia

Ewyllys rydd

Cyd-fyw

Eithafiaeth

Esblygiad

Cyfiawnder

Ymrwymiad

Hawliau dynol

Erthylu

Moesoldeb

Atal cenedlu

Argyhoeddiad personol

Ansawdd bywyd

Heddychiaeth

Cydraddoldeb rhwng y rhywiau

Rhagfarn

Sanceiddrwydd bywyd

Cydwybod

Cyfrifoldebau

Tlodi cynharol ac absoliwt

Yr enaid

Dioddefaint

Rolau

Cyfiawnder cymdeithasol

 

Crynodeb o‘r Asesu

Bydd disgyblion yn sefyll DAU bapur 2awr, un ar ddiwedd blwyddyn 10 ar llall ar ddiwedd blwyddyn11. Bydd y papurau arholiad yn cynnwys cwestiynau strwythuredig ac fe fydd cyfle i ymgeiswyr ysgrifennu’n estynedig.

CA5 (Blwyddyn 12-13) Athroniaeth, Moeseg a Bwdhaeth

Arweinydd Pwnc: Miss Ruth Davies
Bwrdd Arholi: CBAC
Arholiadau: 100%
Gwaith cwrs: Dim

Anghenion Mynediad:

Rydym yn argymell y dylai’r disgyblion ennill gradd C yn eu cyrsiau Astudiaethau Crefyddol a B mewn Cymraeg iaith cyn ymgymryd â’r cwrs.

Beth yw Athroniaeth, Moeseg a Bwdhaeth (Astudiaethau Crefyddol)?

Ceir dau gamddealltwriaeth cyffredin pan yn sôn am astudio Astudiaethau Crefydd ar gyfer opsiwn UG neu Lefel Uwch. Yn gyntaf, nid pwnc ar gyfer pobl sydd am fod yn leianod na chwaith yn ficer ydyw! Yn ail, nid bwriad y cwrs, na’r athrawes, yw eich troi yn berson crefyddol. Mae’r cwrs yn agored ar gyfer rhai sydd â ffydd grefyddol ac ar gyfer y rhai sydd heb ffydd grefyddol. Am y rheswm yma, nid yw’r cwrs na’r arholiad yn pryderu gyda barnu eich safbwynt personol chi am grefydd.

Beth fyddaf yn dysgu o fewn Athroniaeth Moeseg a Bwdhaeth?

Byddwch yn cael cyfle i drafod a datrys cwestiynau dwys bywyd, Byddwch yn dysgu prif ffeithiau am Fwdhaeth, Moeseg ac Athroniaeth. Byddwch hefyd yn datblygu eich gallu i drafod a dadlau yn synhwyrol a deallus am broblemau sydd yn codi yn y meysydd hyn. Rhaid i chi gael meddwl agored a pharodrwydd i gwestiynu barn athronyddol amrywiol er mwyn llwyddo yn y cwrs.

Cynnwys y cwrs:

• Uned 1 Cyflwyniad i Fwdhaeth Astudir unigolion crefyddol o bwys a thestunau sanctaidd; cysyniadau crefyddol; bywyd ac arferion crefyddol.

• Uned 2: Cyflwyniad i Athroniaeth Crefydd / Crefydd a Moeseg

Adran A: Cyflwyniad i Grefydd a Moeseg Bydd yr uned hon yn cynnwys pedair thema yn cynnwys moeseg gymhwysol,

Adran B: Cyflwyniad i Athroniaeth Crefydd Bydd yr uned hon yn cynnwys pedair thema: dadleuon cosmolegol, teleolegol, problem drygioni; a phrofiad crefyddol.

Safon Uwch Blwyddyn 13

Er mwyn parhau gyda’r cwrs U2 argymhellir y dylid ennill o leiaf gradd C yn eu arholiadau UG.

• U2 Uned 3: Astudiaeth o Fwdhaeth

Astudir unigolion crefyddol a thestunau sanctaidd, datblygiad cymdeithasol syniadau ac arferion crefyddol sy’n llunio hunaniaeth grefyddol.

• Uned 4: Crefydd a Moeseg

Astudir datblygiadau cyfoes ym maes damcaniaeth foesegol ac ewyllys rydd a phenderfyniaeth.

• Uned 5: Athroniaeth Crefydd

Astudir sialensiau i gred crefyddol, profiad crefyddol ac iaith grefyddol

Gyrfaoedd posib:

Mae’r cwmniau a swyddi canlynol yn croesawu ymgeiswyr sydd ag lefel UG neu lefel A Astudiaethau crefyddol :- Boots, Marks and Spencer, Y Swyddfa Bost , byrddau nwy a thrydan, yr Heddlu, y Lluoedd Arfog, Nyrsio, Newyddiaduraeth – i enwi ond ychydig. Mae hefyd yn cael ei dderbyn gan Brifysgolion a cholegau ar gyfer cychwyn cyrsiau gradd megis Y Gyfraith, Hanes, Cymraeg, Seicoleg, Cymdeithaseg ac Athroniaeth, yn ogystal â chyrsiau traddodiadol mewn Crefydd a Diwinyddiaeth.

Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:

https://www.wjec.co.uk/qualifications/religious-studies/r-religious-studies-gce-asa-from-2016/