Mwy Abl a Thalentog
Sut ydym yn cynnig her ym Mro Morgannwg?
- Arweinydd Her wedi’i benodi i arwain a monitro’r ddarpariaeth.
 - Cydweithio gydag asiantaethau arbenigol fel NACE.
 - Cydweithio gydag Academi Seren yn sirol ac yn genedlaethol i roi cyfleoedd ychwanegol i ddisgyblion mwy a hynod abl a thalentog Blwyddyn 8 - 13
 - Cyfleon datblygiad proffesiynol parhaus i staff sy’n ymdrin â dulliau pedagogaidd sy’n galluogi i athrawon ddysgu i’r brig.
 - Codi ymwybyddiaeth staff am yr angen i adnabod disgyblion mwy a hynod abl a thalentog a darparu cwricwlwm i ddiwallu eu hanghenion.
 - Sefydlu cofrestr o ddisgyblion mwy a hynod abl a thalentog a’i dosbarthu i’r staff.
 - Pan fo’n addas, mae rhai disgyblion yn astudio pynciau opsiwn TGAU a Safon Uwch ychwanegol neu yn gynharach na chyfoedion yn y flwyddyn ysgol.
 - Anogaeth i gwblhau cyrsiau prifysgol e.e. Cyrsiau’r wefan Openlearn
 - Cyfleon i ddisgyblion mwy a hynod abl a thalentog gyfoethogi eu dysgu drwy brofiadau amrywiol a gynigir e.e. tasgau ymchwil, cyfleoedd i arwain, cydweithio traws ysgol, profiad gwaith.
 - Annog disgyblion i gymryd mantais o brofiadau eang allgyrsiol yr ysgol yn ogystal â chlybiau/digwyddiadau lleol a chenedlaethol, cystadlaethau a chyrsiau preswyl.
 - Sesiynau cymell a gofal bugeiliol gan eu tiwtor personol/ athro dosbarth.
 - Sesiynau cymell a gofal bugeiliol gan yr arweinydd her ar gyfer disgyblion sydd wedi eu hadnabod yn eithriadol mewn o leiaf 3 pwnc yn yr uwchradd.
 - Creu Cynllun Dysgu Unigol ar gyfer disgyblion hynod abl a thalentog.
 - Asesu, tracio cynnydd ac adnabod tangyflawni yn unol â Pholisi Asesu’r ysgol.
 - Gwobrwyo drwy Classcharts (Uwchradd), Pwyntiau Llys (Cynradd), gwasanaethau, y wasg a seremonïau gwobrwyo blynyddol i ddathlu llwyddiannau.
 - Mawrth 2016 – enillodd yr ysgol Ail Achrediad Gwobr Her NACE sy’n cydnabod ein darpariaeth rhagorol ar gyfer disgyblion mwy abl a talentog.
 
Sut mae rhieni yn gallu cefnogi eu plentyn?
- Neilltuo amser bob dydd i drafod gyda’ch plentyn.
 - Cynorthwyo’ch plentyn gyda hunan-drefn a rheoli amser trwy wneud defnydd effeithiol o ddyddiadur eich plentyn, Teams ,Google Classroom.
 - Annog eich plentyn i roi cynnig ar weithgareddau newydd trwy ymuno â’r llu o weithgareddau allgyrsiol sy’n cael eu cynnig gan yr ysgol.
 - Cyfoethogi profiadau eich plentyn trwy annog ymweliadau e.e. orielau celf, amgueddfeydd, canolfannau chwaraeon.
 - Ysbarduno diddordeb trwy annog eich plentyn i ddefnyddio adnoddau yn y cartref e.e. y rhyngrwyd, llyfrau, mapiau, gwylio rhaglenni/ffilmiau.
 - Rhoi cyfle i’ch plentyn gyfarfod â phlant sy’n rhannu’r un diddordebau e.e. trwy ymaelodi â chlybiau a chymdeithasau lleol.
 - Annog eich plentyn yn yr uwchradd, os daw’r cyfle, i fynychu gweithdai, dosbarthiadau meistr a darlithoedd prifysgol.
 - Annog eich plentyn i gymryd mantais o gyfleon sy’n codi ar Teams.
 - Annog disgyblion Blwyddyn 10-13 i gymryd mantais o gyfleon sy’n codi ar Gofod Seren.
 - Cysylltwch gyda’r ysgol os oes cwestiynau neu bryderon ynglŷn â’ch plentyn.
 - Sicrhau bod eich plentyn yn cael cyfle i ymlacio, mwynhau ac i gael amser hamdden!