Adroddiad ESTYN
Gwyrdd oedd lliw'r ysgol yn y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion ar gyfer y flwyddyn 2019-2020.
"Mae’r ysgol yn gymuned hynod gynhwysol, ofalgar a Chymreig. Yn gyffredinol, mae’r disgyblion yn ymddwyn yn wych, yn dangos agweddau rhagorol at eu gwaith ac yn ymfalchïo yn eu Cymreictod. Mae’r gofal ac arweiniad arbennig y mae’r ysgol yn eu darparu yn cydfynd yn llwyr ag arwyddair yr ysgol, sef 'Dyro dy law i mi ac fe awn i ben y mynydd'." ESTYN 2019
| Maes arolygu | Barn |
|---|---|
| Safonau | Da |
| Lles ac agweddau at ddysgu | Rhagorol |
| Addysgu a phrofiadau dysgu | Da |
| Gofal, cymorth ac arweiniad | Rhagorol |
| Arweinyddiaeth a rheolaeth | Da |
"Mae’r berthynas gadarnhaol rhwng athrawon a disgyblion yn nodwedd eithriadol." ESTYN 2019