Skip to content ↓

Dydd Miwsig Cymru Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ​​​​​​​

Dydd Miwsig Cymru Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg 

Ar y pumed o Chwefror, 2021, bydd Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn dathlu ‘Dydd Miwsig Cymru’. Dyma gyfle i bawb ddod at ei gilydd i rannu eu cariad at gerddoriaeth Gymraeg ac i fwynhau yn sŵn y sain. Er mwyn dathlu, mae’r ysgol wedi paratoi adnoddau er mwyn i’r disgyblion gael mwynhau gwrando – a gobeithio darganfod bandiau a chaneuon newydd nas clywyd o’r blaen! 

Dyma i chi fideo gan staff Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn enwi eu hoff ganeuon Cymraeg gan eu hoff artistiaid. Mwynhewch:

 

You have not allowed cookies and this content may contain cookies.

If you would like to view this content please

 

Cliciwch yma i wrando ar ein rhestr chwarae o’r caneuon a ddewiswyd: 

https://youtube.com/playlist?list=PLBMXqvOJCYqZIMJMUqwzTNM4LFhpFgfFY 

Dydd Miwsig Cymru Hapus i chi gyd! 

Am fwy o wybodaeth am y diwrnod, ewch i https://llyw.cymru/dydd-miwsig-cymru