helygen - Blwyddyn 4
Croeso i ddosbarth Helygen!
Mr Davies sydd yn ein dysgu ni eleni ym mlwyddyn 4. Mae Miss Broderick yn ein helpu ni yn y dosbarth bob bore hefyd. 30 o blant bywiog a gweithgar sydd yn ein dosbarth ac rydym yn edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod yn ystod y flwyddyn. Yn ystod y flwyddyn budd hefyd cyfle gennym i dderbyn gwersi yn yr Uwchradd.
Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu nifer o sgiliau gwahanol eleni: Llythrennedd, Rhifedd a llawer mwy. Ein thema ni am dymor yr Hydref yw ‘Yr Oes Fictoria’. Byddwn yn dysgu am nifer fawr o bethau allweddol y cyfnod e.e addysg, yr Iaith Gymraeg, dociau’r Barri a llawer mwy!
Pwysig!
- Mae ein gwersi Addysg Gorfforol ar ddydd Mawrth ac ar ddyddiau Gwener. Mae’n bwysig fod gennych chi’r wisg ac esgidiau addas (Cofiwch am y glaw!).
- Bydd bagiau glas yn cael eu dosbarthu ar ddydd Gwener gyda llyfr darllen a rhaid eu dychwelyd i’r ysgol erbyn y dydd Mercher canlynol.
- Bydd geiriau sillafu a thabl yn cael eu good yn wythnosol ar Google Classroom.
- Bydd ein ymarfer sillafu / tablau ar fore dydd Llun.
- Mae angen i bob disgybl ddod â photel ddŵr i'r ysgol er mwyn sicrhau ei bod yn yfed digon er mwyn hydradu’r corff. Does dim llaeth a ffrwyth ar gael i’r Adran Iau, ond mae croeso i chi ddod â darn o ffrwyth eich hunan i fwyta amser egwyl y bore.
Diolch,
Mr Davies
Dilynwch ein dosbarth ar ein tudalen Trydar!
@MrSRDavies1