Skip to content ↓

Croeso i ddosbarth Derwen!


Mrs Hughes yw ein hathrawes eleni ac mae Miss Weston a Mr Bowen hefyd yn ein helpu ni yn y dosbarth. Mae 29 o blant gweithgar a brwdfrydig yn ein dosbarth ac rydym yn hoff iawn o astudio themâu newydd. 

Rydym wrth ein boddau yn ysgrifennu, darllen, cwblhau gwaith rhifedd, dysgu sgiliau TGCh newydd a chwblhau arbrofion gwyddonol yn y dosbarth. Rydym yn edrych ymlaen at brofiadau newydd y tymor hwn megis gwibdeithiau i Fae Jackson, Parc Stormy a Byd o Anturiaethau Heatherton. Edrychwn ymlaen at ddiwrnod pontio arall yn adeilad yr uwchradd. Y cwestiwn y byddwn yn gofyn yn nhymor yr haf yw 'Ydy plastig yn ffantastig?'. Byddwn yn dysgu am lygredd plastig yn ein cefnforoedd a'i effaith gatastroffig ar bobl, anifeiliaid a'r blaned.

Bydd ein gwersi ymarfer corff yn digwydd ar ddydd Mawrth a dydd Iau. 
Rydym yn derbyn ein gwaith cartref ar ddydd Gwener. Bydd prawf sillafu a rhifedd ar y dydd Gwener canlynol. 


Mae croeso i'n dysgwyr ddod â ffrwyth i'w fwyta yn ystod y bore. Bydd hefyd angen potel ddŵr ar eich plentyn er mwyn sicrhau eu bod yn yfed digon yn ystod y dydd. 
Diolch yn fawr iawn,

Mrs Hughes 

Cofiwch ein dilyn ar Trydar - @MrsMHughes45572