Ywen - Blwyddyn 5
Croeso i dudalen Dosbarth Ywen!
Mr Bowen sydd yn ein dysgu ni eleni ym mlwyddyn 5. Mae Miss Gibbon yn ein helpu ni hefyd. 29 o blant bywiog a gweithgar sydd yn ein dosbarth ac rydym yn edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod yn ystod y flwyddyn.
Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu nifer o sgiliau gwahanol eleni. Ein thema ni am dymor yr Hydref yw 'Cynefin'. Byddwn yn dysgu am gynefinoedd gwahanol gain gynnwys Coedwig law yr Amazon a chynefinoedd mwy lleol.
Pwysig!
- Mae ein gwersi Addysg Gorfforol ar ddydd Llun ac ar ddydd Gwener. Mae’n bwysig fod gennych chi’r wisg addas (Cofiwch am y glaw!).
- Bydd bagiau glas yn cael eu dosbarthu ar ddydd Iau gyda sillafu/tablau, llyfr a chofnod darllen a rhaid eu dychwelyd i’r ysgol erbyn y dydd Llun canlynol.
- Bydd gwaith cartref yn cael ei osod ar gychwyn pob hanner tymor fel prosiect i'w gwblhau erbyn diwedd yr hanner tymor.
- Bydd ein prawf sillafu / tablau ar fore dydd Llun.
- Mae angen i bob disgybl ddod â photel ddŵr i'r ysgol er mwyn sicrhau eu bod yn yfed digon i gadw wedi hydradu ac yn iach. Does dim llaeth a ffrwyth ar gael i’r Adran Iau, ond mae croeso i chi ddod â darn o ffrwyth eich hunan i fwyta amser egwyl y bore.
Diolch,
Mr Bowen
Dilynwch ni ar ein tudalen Trydar!
@MrMBowen1