Skip to content ↓

Cwrteisi

  • Siaradwch yn gwrtais gyda staff, disgyblion ac ymwelwyr.
  • Cofiwch ddal drysau a chynnig help i bawb.

Ar y Bws

  • Eisteddwch yn eich sedd trwy gydol y daith.
  • Peidiwch byth â sefyll ar eich traed tra bo’r bws yn teithio.
  • Ar ddiwedd y dydd os nad yw eich bws wedi cyrraedd arhoswch yn drefnus ar y palmant.
  • Wrth adael y bws sicrhewch ei bod hi’n ddiogel i groesi’r ffordd ar ôl i’r bws adael.
  • Os ydych yn torri rheolau diogelwch teithio ar fws ysgol yna bydd yr ysgol yn cysylltu â’ch rhieni i wneud trefniadau eraill i’ch cludo yn ôl ac ymlaen i’r ysgol yn ddyddiol.

Yn y Coridorau

  • Pan fyddwch yn cyrraedd yr ysgol sicrhewch eich bod yn defnyddio y fynedfa briodol ac nid drysau blaen yr ysgol.
  • Cerddwch ar y chwith gan gadw’ch bagiau wrth eich ochr.
  • Arhoswch mewn rhes drefnus y tu allan i bob ystafell ddysgu gan ddisgwyl caniatâd eich athro neu athrawes cyn mynd i mewn i’r dosbarth.
  • Peidiwch â defnyddio coridor yr athrawon heb ganiatâd.
  • Peidiwch â gadael eich bagiau na’ch cotiau yn y coridor.

Yn y Gwasanaeth

  • Gadewch eich cotiau a’ch bagiau yn eich ystafell gofrestru.
  • Cerddwch i mewn i’r gwasanaeth yn dawel ac yn drefnus ac eisteddwch fesul dosbarth cofrestru. 
  • Parchwch naws y gwasanaeth gan wrando’n dawel heb siarad nac anesmwytho.
  • Gadewch y neuadd yn dawel a threfnus.
  • Ewch allan o’r adeilad yn syth ar ôl gadael y ffreutur.

Yn yr Ystafell Ddosbarth

  • Peidiwch â mynd i mewn i’r ystafell ddysgu heb ganiatâd athro neu athrawes.
  • Ym mhob gwers disgwylir i chi fynd i mewn yn dawel, sefyll y tu ôl i’ch desg, tynnu eich offer o’ch bag heb ffwdan ac aros am ganiatâd yr athro neu athrawes cyn eistedd.
  • Disgwylir i chi siarad Cymraeg ym mhob gwers ar wahân i’r gwersi Saesneg ac Ieithoedd Modern. 
  • Sefwch ar eich traed yn dawel ar ddiwedd y wers i ddisgwyl caniatâd eich athro neu athrawes cyn gadael.
  • Peidiwch ag oedi yn y coridor rhwng gwersi, gallwch ddefnyddio’r tai bach yn ystod egwyl ac amser cinio.
  • Os daw ymwelydd i’r wers sefwch ar eich traed yn dawel.

Amser egwyl a chinio

  • • Arhoswch mewn rhes drefnus y tu allan i’r ffreutur.
  • Disgwyliwch am ganiatâd cyn ffurfio rhes y tu mewn i’r ffreutur ar hyd ochr y wal bellaf.
  • Ar ôl archebu bwyd eisteddwch o gwmpas un o’r byrddau.
  • Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y bwrdd yn lân cyn i chi adael gan ddychwelyd yr hambwrdd i’r man priodol.
  • Taflwch unrhyw sbwriel i’r biniau priodol.
  • Ni chewch fynd â bwyd na diod allan o’r ffreutur.
  • Ewch allan o’r adeilad yn syth ar ôl gadael y ffreutur.

Yn ystod tywydd gwael

  • Dylech ddefnyddio’r ffreutur yn ystod amser egwyl a chinio.
  • Ni chewch ddefnyddio’r coridorau fel lle i gysgodi.
  • Parchwch yr amgylchedd gan roi sbwriel yn y biniau.

Bwlio

  • Ni dderbynnir bwlio yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg.
  • Dywedwch wrth athro, athrawes neu ffrind yn syth.
  • Gallwch ddanfon neges destun ar ein rhif arbennig os ydych yn poeni am achos o fwlio. Bydd y rhif yn glir ar draws yr ysgol.