Skip to content ↓

Dim ond rhieni sy'n derbyn rhai budd-daliadau penodol sy'n gallu hawlio prydau ysgol am ddim ar gyfer eu plant.

Mae’r budd-daliadau perthnasol yn cynnwys:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cymorth Cyflogaeth
  • Cymorth o dan Adran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Credyd Treth Plant (ond nid y Credyd Treth Gwaith) gydag incwm blynyddol (fel yr aseswyd gan Gyllid y Wlad) heb fod yn fwy na £16,190
  • Elfen wedi ei warantu o Gredyd Pensiwn y Wlad

Noder: Mae plant sy'n derbyn Lwfans Incwm neu'r Lwfans Ceisio Gwaith eu hunain yn seiliedig ar incwm yn gallu hawlio prydau ysgol am ddim.

BETH YDYCH CHI’N DERBYN?

  • Pryd y Dydd (Pryd poeth penodol, pwdin a diod)
  • Neu rhywbeth arall gwerth £2.45
  • Bydd £2.45 yn llwytho i fyny ar TAG disgyblion yn ddyddiol ond ni fydd y balans yn trosglwyddo i’r diwrnod canlynol
  • Bydd unrhyw archeb amser egwyl yn cael ei dynnu o’r balans dyddiol
  • Am resymau cyfrinachol ni fydd balans y disgybl yn ymddangos ar y til, dim ond enw’r disgybl.  Gall y disgybl gwirio balans y TAG ar beiriant arian neu trwy ofyn aelod staff y gegin.

Os ydych yn credu efallai bod eich plentyn neu blant yn gymwys i dderbyn grant gwisg ysgol, yna bydd angen i chi lenwi ffurflen gais sydd ar gael gan benefits@bromorgannwg.gov.uk  neu eich ysgol leol. Gellir cael gafael ar ffurflenni cais yn ystod ail hanner tymor yr haf ar gyfer y rhai sy’n symud i’r ysgol uwchradd y mis Medi canlynol.