Skip to content ↓

Croeso i ddosbarth Onnen!

Miss Taylor yw ein hathrawes ni eleni. Mae Miss Weston yn ein helpu ni yn y dosbarth hefyd ar fore ddd Llun, Mercher a Gwener, ac mi fydd Miss Dyer gyda ni pob Dydd Iau.  Mae yna 25 o ddisgyblion annwyl, bywiog a gweithgar yn ein dosbarth.

Gan ein bod ym Mlwyddyn 3, bydd pwnc newydd ar yr amserlen – Saesneg! Rydym yn edrych ymlaen at drafod, darllen ac ysgrifennu yn yr iaith eleni. Rydym hefyd yn mwynhau amryw o wersi eraill fel Cymraeg, Mathemateg, Gwyddoniaeth a llawer iawn iawn mwy!

Ein thema y tymor hwn yw 'Byd Llawn Rhyfeddodau', a byddwn yn dysgu am ac ymchwilio i fewn i fywyd a gwaith Roald Dahl! Fel dosbarth byddwn ni'n darllen cyfieithiad Y Twits, a budd prosiect 'Charlie and the Chocolate Factory' yn digwydd gyda Miss Dyer. Byddwn yn ceisio meddwl am 'Ble allwn ni fynd yn ein dychymyg'. Hudolus!

 

Pwysig!

  • Mae ein gwersi Addysg Gorfforol bob Dydd Llun a Dydd Gwener. 
  • Bydd ein llyfrau darllen a geiriau sillafu yn cael eu hanfon adref ar ddydd Gwener a rhaid dychwelyd y llyfrau darllen i’r ysgol erbyn y dydd Mercher canlynol.
  • Bydd gwaith cartef/homework takeaway yn cael ei osod ar ddydd Iau, a bydd angen cwblhau'r gwaith erbyn y dyddiad fydd wedi nodi ar y daflen.
  • Bydd ein ymarferion sillafu / tablau yn digwydd bob dydd Llun. 
  • Mae eisiau potel ddŵr gan bawb yn y dosbarth er mwyn sicrhau ein bod yn yfed digon i gadw’n iach. Does dim llaeth a ffrwyth ar gael i’r Adran Iau, ond mae croeso i chi ddod â darn o ffrwyth eich hunan i fwyta amser egwyl y bore.   

 

Diolch,

Miss Taylor

Dilynwch ni ar ein tudalen X (Trydar)!

@Misstaylor24117