Skip to content ↓

Croeso i ddosbarth Glas y Gors! 

Miss D Williams yw ein hathrawes eleni yn nosbarth Glas y Gors ac mae Miss Pearce a Mrs Storm-Thomas yn ein helpu. Mi fydd Mrs Weighell yn arwain ein sesiynau CPA unwaith bob pythefnos. Mae 29 o ddysgwyr hapus, caredig a chwilfrydig yn y dosbarth sydd yn hoff iawn o astudio themâu newydd.

Rydym wrth ein boddau yn darllen, ymarfer ein sgiliau ysgrifennu, cwblhau gwaith rhifedd, darganfod sgiliau digidol newydd yn ogystal â chynnal ymholiadau gwyddonol cyffrous yn y dosbarth.

Ein thema ar gofer Tymor y Gwanwyn yw 'Y Gofod'.

Pwysig:

  • Bydd ein gwersi ymarfer corff yn digwydd ar ddyddiau Mawrth a Iau. Fe fydd angen bag yn cynnwys cit ymarfer corff, a phopeth wedi labelu. Crys lliw'r llys, siorts neu leggings du a 'trainers'. Fe fydd y bag yn aros yr yr ysgol am hanner tymor.
  • Byddwn yn darllen yn unigol yn wythnosol ac yn derbyn llyfr newydd os byddwn yn baro i symud ymlaen.  Fe fydd nodiadau am hyn yn y Cofnod Darllen er mwyn cysylltu darllen y cartref gyda darllen yn yr ysgol. Bydd pangen dod a'r bagiau i'r ysgol yn ddyddiol.
  • Bydd tasgau sillafu a rhifedd yn cael eu gosod ar Google Classroom ar ddyddiau Gwener.
  • Bydd tudalen Dewis Difyr yn cael ei osod ar Google Classroom ar ddechrau pob hanner tymor er mwyn i ni allu parhau â’n dysgu adref. Fe fydd y Dewis Difyr cyntaf yn cael ei ddarparu yn dilyn Hanner Tymor yr Hydref (10ed o Dachwedd).

Diolch yn fawr iawn,

Miss D Williams

Cofiwch ddilyn ein hynt a helynt ar drydar ein dosbarth: @MissDWilliams6